Skip to Main Content

Gwasanaethau Cymorth Data Ymchwil ar gyfer Ymchwilwyr: Gweithio gyda data

This page is also available in English

Gweithio gyda data ymchwil

Am gyfnod prosiect ymchwil, bydd proses barhaus o greu a rheoli data. Mae materion rheoli data yn cynnwys:

  • Storio ac ategu diogel er mwyn atal rhag colli'r data
  • Mynediad wedi'i reoli ar gyfer ymchwilwyr, o bell ac ar y safle
  • Trefnu ffeiliau: enwau ffeiliau a strwythur ffolderi er mwyn sicrhau bod modd nodi'r data a dod o hyd iddo'n hwylus
  • Dogfennaeth data barhaus ar gyfer y prosiect cyfredol a defnyddwyr yn y dyfodol
  • Storio data sensitif er mwyn cydymffurfio â gofynion Diogelu Data neu faterion masnachol
  • Storio data annigidol er mwyn ei gadw a sicrhau mynediad ato
     

Adnoddau

Mae sawl modiwl ym mhecyn hyfforddi MANTRA yn cynnwys y pynciau hyn:

  • Trefnu data
  • Fformatau a thrawsnewid ffeiliau
  • Dogfennaeth, metadata, dyfynnu
  • Storio a Diogelwch

Ble dylwn storio fy nata ymchwil?

Yn y lle cyntaf, dylid storio data a grëir o ganlyniad i ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ar eich OneDrive. Ceir mynediad at hyn ar gyfrifiadur personol Windows drwy agor Windows Explorer. Ar y chwith yn y ffenestr a fydd yn ymddangos, byddwch yn gweld nifer o yriannau sydd wedi'u hatodi i'ch cyfrifiadur. Bydd un o'r rhain wedi'i labelu'n OneDrive. Mae OneDrive yn rhan o amgylchedd ar-lein Microsoft Office 365, a cheir mynediad ato drwy fewngofnodi i https://swanseauniversity-my.sharepoint.com. Mae modd ichi storio hyd at 200GB o ddata yn y lle hwn. Mae data sydd wedi'i storio yn OneDrive wedi'i storio ar isadeiledd Microsoft Cloud, ac o ran daearyddiaeth bydd mewn canolfannau data yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae modd rhannu ffeiliau yn eich OneDrive â chydweithwyr hefyd, yn y Brifysgol a'r tu allan iddi. Ewch i'r ddolen hon am ragor o wybodaeth am ddefnyddio eich OneDrive.