Skip to Main Content

Gwasanaethau Cymorth Data Ymchwil ar gyfer Ymchwilwyr: Esbonio RDM

This page is also available in English

Esbonio Rheoli Data Ymchwil

Ar gyfer llawer o fathau o brosiectau ymchwil, eich data ymchwil fydd y peth mwyaf gwerthfawr y byddwch yn ei greu. Felly mae'n gwneud synnwyr bod y cyllidwr, sy'n talu am yr ymchwil sy'n creu'r data, yn gofyn ichi ei drin yn ofalus a gofalu amdano'n iawn - am hyd y prosiect ac ar ôl iddo orffen. At hynny, bydd unrhyw ddata y byddwch yn ei greu fel cyflogai Prifysgol Abertawe yn eiddo'r Brifysgol, sy'n gofyn ichi:

  • Storio data prosiect byw mewn lleoliad sy'n ddigon diogel ac wedi'i gymeradwyo gan y Brifysgol, sy'n cynnwys ategu'r data a rheoli fersiwn, h.y. Microsoft OneDrive neu Microsoft Teams.
  • Storio data terfynol prosiect mewn lleoliad sy'n ddigon diogel ac wedi'i gymeradwyo gan y Brifysgol, sy'n cynnwys ategu'r data a rheoli fersiwn, er enghraifft y storfa data ymchwil agored y mae eich cyllidwr yn ei hargymell neu Gymuned Data Ymchwil Agored y Brifysgol ar Zenodo.
  • Rhoi gwybod i'r Brifysgol am leoliad y prosiect terfynol, gan nodi ei Ddynodwr Gwrthrych Digidol (DOI) neu URL tebyg, drwy greu a chwblhau cofnod ar gyfer eich prosiect a'i ddata yn y System Gwybodaeth Ymchwil (RIS). Dylai'r cofnod hwn gynnwys manylion am brif fan cyswllt eich prosiect ar gyfer ymholiadau data ymchwil a'r dyddiad olaf y bydd hyn yn berthnasol.

Mae data ymchwil yn cynnwys y canlynol:

  • Dogfennau (er enghraifft MS Word, ffeiliau testun, LaTeX/BibTeX, Mark Down, etc.). Mae hyn yn cynnwys holiaduron a thrawsgrifiadau cyfweliadau,
  • Ffeiliau deuol
  • Lluniau
  • Sain a fideo
  • Meddalwedd
  • Taenlenni
  • Cronfeydd data
  • Delweddau
  • Llyfrau nodiadau labordy

Mabwysiadwyd 'Uniondeb Ymchwil: Fframwaith Polisi ar Foeseg a Llywodraethu Ymchwil' Prifysgol Abertawe gan Senedd y Brifysgol ym mis Medi 2015. Mae'r ddogfen yn disgrifio'r disgwyliadau sefydliadol o ran moeseg a llywodraethu ymchwil, ac yn cynnwys polisi ar Reoli Data Ymchwil (t.52-54, Adran J). Mae'r ddogfen yn datgan:

"Mae'r Brifysgol yn hyrwyddo'r egwyddor bod y safonau uchaf o ran rheoli data a chofnodion ymchwil yn hanfodol i ymchwil o safon a chywirdeb academaidd."

Ac y

"Dylai ymchwilwyr gadw cofnodion clir a chywir o'u hymchwil. Mae hyn yn cynnwys gweithdrefnau, protocolau, cymeradwyaeth, ffynonellau a ddefnyddiwyd, a'r canlyniadau a gafwyd, gan roi sylw dyledus i ofynion anhysbysrwydd a chyfrinachedd."

Os ydych yn ansicr o ran lle i storio data byw neu derfynol eich prosiect, neu os oes angen arweiniad arnoch ynghylch a yw eich prosiect yn creu data ymchwil, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Data Ymchwil: research-data@abertawe.ac.uk

Mewn rhai achosion, gallai fod gofynion rheoleiddiol sy'n berthnasol i gasglu a storio data, felly bydd y cyllidwr am fod yn sicr eich bod yn cydymffurfio â'r rhain hefyd. Gweler yr adran nesaf ar gyfer dolenni penodol i gyllidwyr.

Gofynion Cyllidwyr

Mae gofynion gwahanol gan gyllidwyr o ran hyd cynlluniau a’r hyn y dylid ei gynnwys, felly mae'n bwysig eich bod yn gwirio beth maent yn ei ddisgwyl.