Skip to Main Content

Gwasanaethau Cymorth Data Ymchwil ar gyfer Ymchwilwyr

This page is also available in English

Amcangyfrif costau

Gallai costau rheoli data fod yn nhermau amser ac ymdrech yn ogystal ag adnoddau ffisegol megis caledwedd a meddalwedd. Mae canllaw Archif Data'r Deyrnas Unedig i Reoli a Rhannu Data yn awgrymu dewis un o ddwy ymagwedd at bennu costau rheoli data ar ddechrau prosiect ymchwil neu ar gyfer cais am gyllid:

  1. Prisio'r holl weithgareddau sy'n ymwneud â data ar gyfer cylch bywyd cyfan y data (creu, rhannu a chadw) er mwyn cyfrif cyfanswm cost o ran creu data.
  2. Pennu costau'r holl dreuliau ychwanegol (y tu hwnt i'r hyn a fyddai'n weithdrefnau ac arferion ymchwil safonol) a geir wrth ei gwneud hi'n bosibl rhannu'r data. Mae Gwasanaeth Data’r  Deyrnas Unedig wedi datblygu offeryn pennu costau ar gyfer yr opsiwn hwn sy'n ystyried yr holl gamau a chostau posibl efallai y bydd angen eu cynnwys

Adnoddau