Skip to Main Content

Gwasanaethau Cymorth Data Ymchwil ar gyfer Ymchwilwyr: Archifo Data Ymchwil

This page is also available in English

Archifo Data Ymchwil

Beth i'w gadw?

Mae'r DCC yn darparu arweiniad cynhwysfawr i helpu ymchwilwyr i asesu pa ddata i'w gadw

 

Ble i archifo data ymchwil?

Nid oes ateb hawdd i hyn! Mae cyngor cyffredinol yn awgrymu y dylech wirio arweiniad y cyllidwr yn gyntaf, yna unrhyw opsiynau o ran storfeydd cymunedol neu bynciol sefydledig, neu defnyddiwch ateb storio data Prifysgol Abertawe (gweler isod).

Mae rhai cyllidwyr yn mynnu ar eu storfeydd eu hun ar gyfer data ymchwil:

Rhestrau cyffredinol o storfeydd data y gellir eu pori fesul pwnc

Mae rhestr wirio "Ble i gadw data ymchwil" gan y DCC sy'n ystyried sut i fynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol:

  1. ai storfa ag enw da sydd ar gael?
  2. a fydd yn derbyn y data rydych am ei storio?
  3. a fydd yn ddiogel o safbwynt cyfreithiol?
  4. a fydd y storfa yn cynnal gwerth y data?
  5. a fydd yn cefnogi gwaith dadansoddi, ac yn olrhain defnydd o'r data?"

 

Cymuned Data Ymchwil Agored Prifysgol Abertawe

Os nad oes storfa data briodol ar gael - storfa bynciol neu storfa cyllidwr - mae cymuned data ymchwil agored gan Brifysgol Abertawe ar y gwasanaeth Zenodo. Cynhelir y gwasanaeth gan CERN sy'n arbenigwyr o ran trin setiau data mawr ac mae’n gwarantu y bydd yn symud y gwasanaeth i storfeydd eraill os caiff ei ddileu, felly mae'n ddigon cadarn i ddiwallu anghenion cyllidwyr. Hefyd, bydd yn darparu DOI ar gyfer eich data er mwyn iddi fod yn haws dod o hyd iddo a'i hyrwyddo.

Gall Zenodo storio ffeiliau hyd at 2GB ac mae'n cynnig amrywiaeth o drwyddedau. Pan fyddwch yn dewis trwydded, bydd angen ichi ystyried gofynion y cyllidwr a hefyd a oes angen cyfrinachedd yn eich ymchwil (am ragor o wybodaeth, gweler: Rhannu ac Ailddefnyddio Data). Er bod Zenodo yn annog data agored, nid oes rhaid ichi wneud popeth yn agored.

Sylwer er bod y Brifysgol yn annog defnyddio Zenodo ar gyfer data, dylid storio cyhoeddiadau yn y System Gwybodaeth Ymchwil bob amser.