Skip to Main Content

Economeg: Sgiliau Ymchwil

This page is also available in English

Mae Hanfodion Llyfrgell MyUni yn cynnwys adran ar ymchwilio. Dilyna’r ddolen isod i ddysgu sut i gynllunio strategaeth chwilio a chynnal dy chwiliad. (Bydd angen i ti fewngofnodi i Canvas i gael y ddolen.)

Dilynwch y ddolen i ymgofrestru ar gyfer Hanfodion Llyfrgell MyUni os nad ydych chi wedi cael mynediad at y cwrs o'r blaen. 

Chwilio mewn modd systematig

Allweddeiriau

  • Chwiliwch am yr allweddeiriau. Peidiwch â theipio brawddeg hir
  • A oes cyfystyron neu dermau cysylltiedig (ehangach neu fwy penodol) a allai fod yn berthnasol?

Cynyddu nifer y canlyniadau

  • Gallwch ddefnyddio symbol cwtogi (seren * fel arfer) i ddod o hyd i derfyniadau gwahanol ar gyfer eich allweddair. Er enghraifft byddai chwilio am darllen* yn dangos canlyniadau am darllen, darllenwyd, darllenadwy ayyb.
  • Gallwch chwilio am dermau amgen ar yr un pryd drwy eu cysylltu â'r gair or; er enghraifft, gallwch chwilio am adolescent or teenager.

Lleihau nifer mawr o ganlyniadau

  • Os oes gennych ormod o ganlyniadau, rhowch gynnig ar chwilio ar sail y teitl yn unig yn hytrach na'r cofnod llawn. Dylech gael llai o ganlyniadau a rhai mwy perthnasol.
  • Defnyddiwch ddyfynodau os hoffech i'ch termau chwilio ymddangos fel ymadrodd:  er enghraifft, “deallusrwydd artiffisial”.  
  • Defnyddiwch yr opsiynau hidlo ar ochr tudalen y canlyniadau er mwyn gwneud eich chwiliad yn fwy penodol.

Mae gwerthuso eich ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth. Mae angen i chi ystyried a yw eich ffynonellau'n:

  • Dibynadwy
  • Digon academaidd
  • Diduedd

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun am yr wybodaeth rydych wedi dod o hyd iddi.

Pwy?

  • Pwy yw'r awdur neu sefydliad sy'n gyfrifol am yr wybodaeth?
  • A ydynt yn gymwys i ysgrifennu ar y pwnc hwn?

Pryd?

  • A yw'r wybodaeth yn gyfredol?
  • A ydyw o bwys?

Pa fath o wybodaeth?

  • Ai barn neu ffaith ydyw?
  • A yw'n ddibynadwy ac yn annibynnol?
  • A yw'n canolbwyntio ar ymchwil/academaidd neu'n fasnachol?

Canolfan Llwyddiant Academaidd

Canolfan Llwyddiant Academaidd

O help gyda strwythuro ac ysgrifennu aseiniadau, i gefnogi gyda mathemateg ac ystadegau, gall y Ganolfan Llwyddiant Academaidd eich helpu chi. Cliciwch ar y linc isod i ddarganfod mwy am eu gwasanaethau.

Centre for Academic Success Image

Sage Research Methods

Deallusrwydd Artiffisial (AI) ac Ymchwil

Mae adnoddau deallusrwydd artiffisial a all eich helpu gyda'ch ymchwil. Bydd angen i chi ddefnyddio eich doethineb i adolygu'r wybodaeth y mae’r adnoddau’n ei chanfod gan nad yw’r rhain yn ddibynadwy bob amser. Dylid eu defnyddio ochr yn ochr â dulliau mwy traddodiadol o chwilio am wybodaeth yn y llenyddiaeth.

Cofiwch fod yn rhaid i chi ddefnyddio dulliau Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn gyfrifol. Fel rheol gyffredinol, dylech ddweud a ydych chi wedi defnyddio AI i helpu gyda'ch ymchwil a sut rydych chi wedi'i ddefnyddio. Ni ddylech ddefnyddio AI i ysgrifennu unrhyw rannau o'ch aseiniad; dylai'r gwaith a gyflwynir fod yn waith gwreiddiol. Gwiriwch am arweiniad ar ddefnyddio AI yn eich llawlyfrau modiwlau a'ch briffiau aseiniadau. Darllenwch bolisi'r Brifysgol ar ddefnyddio AI a Chamymddygiad Academaidd.