MarketLine AdvantageThis link opens in a new windowYn cynnwys miloedd o adroddiadau megis proffiliau cwmni (yn cynnwys dadansoddiadau SWOT), proffiliau diwydiant, proffiliau gwlad, (yn cynnwys dadansoddiadau PESTLE), astudiaethau achos, newyddion a deliau ariannol.
Os ydych yn cyrchu MarketLine oddi ar y campws, bydd angen i chi glicio 'Shibboleth' ar y dudalen mewngofnodi ac yna dewis Prifysgol Abertawe fel eich sefydliad.
FAME This link opens in a new windowMae'r gronfa ddata FAME yn cynnwys gwybodaeth am gwmnïau yn y DU ac Iwerddon. Mae'n cynnwys gwybodaeth am 2.8 miliwn o gwmnïau, gydag adroddiadau manwl am 1.9 miliwn ohonynt. Ar gyfer y 1.9 miliwn o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw, mae'r adroddiadau fel rheol yn cynnwys: manylion cyswllt, gan gynnwys rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost a gwefan, ynghyd â'r prif gyfeiriad a chyfeiriadau masnachu, manylion gweithgarwch, cyfrif elw a cholled a 63 eitem mantolen, llif arian a chymarebau, sgôr a gradd credyd, gwybodaeth am warantau a phrisiau (cwmnïau rhestredig yn unig), enwau'r banciau, yr archwilwyr, archwilwyr ac ymgynghorwyr blaenorol, manylion daliadau ac is-gwmnïau (gan gynnwys daliadau ac is-gwmnïau tramor), enwau cyfarwyddwyr presennol a blaenorol a'u cyfeiriadau cartref a dangosyddion ar gyfer cyfranddalwyr, penaethiaid adrannau, cyfranddalwyr, newyddion, ynghyd â mynediad i ddelweddau wedi'u sganio o'r dychweliadau a'r adroddiadau blynyddol diweddaraf.
NexisThis link opens in a new windowMae gan Nexis archifau y gellir eu chwilio sy'n cynnwys cannoedd o bapurau newydd a ffynonellau newyddion eraill o nifer o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys testun y rhan fwyaf o'r erthyglau mewn llawer o bapurau newydd o ddechrau'r 1990au hyd at heddiw. Mae'n cynnwys ychydig o bapurau newydd o'r 1970au a'r 1980au.
This link opens in a new window
I chwilio papurau newydd, cliciwch ar Newyddion yn y bar offer ar y brig. Neu gallwch chi glicio ar “Pob Math o Gynnwys” a dewis Newyddion cyn chwilio.
Adroddiadau am ddefnyddwyr a marchnadoedd ac ystadegau
MarketLine AdvantageThis link opens in a new windowYn cynnwys miloedd o adroddiadau megis proffiliau cwmni (yn cynnwys dadansoddiadau SWOT), proffiliau diwydiant, proffiliau gwlad, (yn cynnwys dadansoddiadau PESTLE), astudiaethau achos, newyddion a deliau ariannol.
Os ydych yn cyrchu MarketLine oddi ar y campws, bydd angen i chi glicio 'Shibboleth' ar y dudalen mewngofnodi ac yna dewis Prifysgol Abertawe fel eich sefydliad.
Mintel ReportsThis link opens in a new windowYn cynnwys adroddiadau ymchwil marchnad ar fwyd, diod, hamdden, technoleg ac e-fasnach. Mae yna hefyd adroddiadau ar dueddiadau, brandiau, ffordd o fyw (DU) ac agweddau a theuddiadau (Tsieina).
Os ydych chi’n cyrchu Mintel oddi ar y campws, bydd yn rhaid i chi glicio ‘Federated login’ ar y dudalen fewngofnodi ac yna dewis Prifysgol Abertawe fel eich sefydliad.
StatistaThis link opens in a new windowMae gan Statista ffocws byd-eang ac mae'n rhoi'r ffeithiau a'r data diweddaraf a mwyaf perthnasol am farchnadoedd, defnyddwyr a diwydiannau. Mae'n cynnwys 1.9m o ystadegau, rhagolygon ac astudiaethau ynghylch 80,000 o bynciau a 170 o ddiwydiannau ledled y byd. Mae modd lawrlwytho data'n hawdd i'r rhan fwyaf o fformatau cyffredin.
Cydsoddiadau a Chaffaeliadau; Deliadau; Cynigion Cyhoeddus Cychwynnol (IPOs)
Orbis M&AThis link opens in a new windowMae Orbis M&A yn cynnwys Cyfuniadau a Chaffaeliadau, Cynigion Cyhoeddus Cychwynnol a deliadau cyfalaf menter gyda chysylltiadau â gwybodaeth ariannol fanwl am y cwmnïau.
Data ariannol ar gyfer banciau a sefydliadau ariannol eraill
Mae S&P Capital IQ (Pro) yn rhoi mynediad i ddata a newyddion ariannol presennol a hanesyddol ar gyfer dros 50,000 o fanciau’n fyd-eang.
Pam defnyddio S&P Capital IQ (Pro)
Mae S&P Capital IQ (Pro) yn darparu data ariannol ar gyfer dros 50,000 o fanciau a sefydliadau ariannol
Sylw byd-eang
Creu rhybuddion
Newyddion ac adroddiadau am gwmnïau a marchnadoedd perthnasol
Offer dadansoddi cynwysedig
Gallwch ddefnyddio S&P Global i lawrlwytho data drwy Excel. I wneud hyn, bydd angen i chi ddefnyddio gwasanaeth mynediad cyfrifiaduron o bell y Brifysgol. Pan fyddwch wedi mewngofnodi i’r cyfrifiadur o bell, ewch i’r ‘Unified Desktop’ ac yna’r Ysgol Reolaeth, ‘Specialist Apps’ a chlicio ar yr eicon o’r enw ‘SNL-Excel Plugin’.
Pob pwnc: Y DU ac Ewrop
Swyddfa Ystadegau GwladolThis link opens in a new windowY Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yw safle ystadegau swyddogol y Deyrnas Unedig ar gyfer ystadegau iechyd, addysg, materion cymdeithasol, economeg, masnach a llafur, a holl feysydd polisi'r llywodraeth, gan gynnwys Cyfrifiad 2021.
UK Data ServiceThis link opens in a new windowMae Gwasanaeth Data y Deyrnas Unedig yn adnodd cynhwysfawr a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n un pwynt mynediad at ystod eang o ddata eilaidd, gan gynnwys arolygon graddfa fawr y llywodraeth, macroddata rhyngwladol, microddata busnesau, astudiaethau ansoddol a data'r Cyfrifiad rhwng 1971 a 2011.
EuroStatThis link opens in a new windowGelwir Swyddfa Ystadegau Cymunedau Ewrop yn Lwcsembwrg yn Eurostat. Nid yw Eurostat yn casglu data ei hun, ond mae'n casglu data o asiantaethau ystadegau gwladol yr aelod-wladwriaethau. Yna mae angen iddi sicrhau bod y data'n cyd-fynd fel y gellir gwneud cymariaethau ystyrlon ar draws sawl gwlad.
StatsWalesThis link opens in a new windowStatsWales is a free-to-use service that allows visitors to view, manipulate, create and download tables from the most detailed official data on Wales.