Efallai y byddwch hefyd yn dod o hyd i erthyglau cyfnodolion mewn nifer o gronfeydd data eraill. Mae rhestr lawn o'r cronfeydd data y mae'r llyfrgell yn tanysgrifio iddynt i'w gweld yma.
Os byddwch yn dod o hyd i bapurau yn eich chwiliad llenyddiaeth nad ydynt ar gael trwy danysgrifiad gan Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe gallwch gyflwyno cais benthyg rhwng llyfrgelloedd i gael copïau o'r papurau o ffynonellau eraill. Cofiwch chwilio ifind, catalog y Llyfrgell cyn gwneud cais benthyg rhwng llyfrgelloedd.
Lawrlwythwch estyniad y porwr i gael mynediad hawdd at destun llawn erthyglau mewn cyfnodolion yn ein tanysgrifiadau wrth bori’r we a chronfeydd data megis Scopus a PubMed.