Mae'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth ar Gampws Parc Singleton ar 4 llawr ac mae wedi'i rhannu'n adenydd y Dwyrain a'r Gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr.
Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.
Mae rhestr ddarllen eich modiwl yn ffynhonnell hanfodol o ddeunyddiau adolygu. Gallwch ddod o hyd i’ch rhestr ddarllen drwy chwilio yn iFindReading neu drwy fynd i adran rhestrau darllen ar Canvas.
Defnyddir rhifau galw i ddod o hyd i lyfrau yn y Llyfrgell. RM-RS yw'r llyfrau sy'n benodol am Fferylliaeth. Serch hynny, mae testunau am gyffuriau ar gyfer ymyriadau neu gyflyrau penodol wedi'u cadw gyda nhw, felly defnyddiwch iFind i chwilio am bynciau a gwnewch yn siŵr bod gennych y nodau galw cywir. Mae'r rhain i gyd ar Lefel 1 Adain y Dwyrain.
Gallwch ddarllen llawer o e-lyfrau ar-lein hefyd. Bydd y rhain oll wedi'u rhestru yn iFind, gyda dolenni i destunau llawn ar-lein.
Dyma rai rhifau galw ar gyfer testunau sy'n ymwneud â Fferylliaeth er mwyn i chi gychwyn arni.
Pwnc |
Rhif Galw |
Lleoliad |
Rhagnodi Cyffuriau |
RM138 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Ysgrifennu Presgripsiwn |
RM139 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Camddefnyddio cyffuriau therapiwtig Gwallau o ran meddyginiaeth |
RM146-146.7 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Gweinyddu cyffuriau |
RM147-180 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Cemotherapi |
RM260-263 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Therapi Gwrthfiotig Gwrthfiotigau |
RM265-267 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Cyffuriau a'u heffeithiau |
RM300-666 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Cyffuriau nad ydynt ar bresgripsiwn Meddyginiaethau patent |
RM671-671.5 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Cyffurlyfrau. Presgripsiynau a gesglir |
RS125-131.9 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Cyffuriaduron |
RS139-141.9 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Meddyglyfrau |
RS151.2-151.9 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Sylweddau Fferyllol |
RS160-167 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Dulliau Profi. Safoni Dadansoddiad |
RS189-190 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Technoleg Fferyllol |
RS192-199 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Ffurflenni dognau fferyllol |
RS200-201 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Cymysgeddau Masnachol Meddyginiaethau patent |
RS250-252 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Cyflenwadau fferyllol |
RS355-356 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Cemeg Fferyllol |
RS400-431 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Archwiliad microsgopeg o gyffuriau |
RS441 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Mae cofnod catalog pob llyfr yn iFind yn cynnwys dolen 'darganfod' i ddangos cynllun llawr yr ardal berthnasol yn y llyfrgell.