Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chwilio am draethawd ymchwil ar gyfer eich ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno'ch traethawd ymchwil, ewch i'n canllaw Traethodau Ymchwil.
Dod o hyd i Draethodau Hir Prifysgol Abertawe
Cyrchwch gasgliad e-draethodau ymchwil Prifysgol Abertawe o Cronfa, yr ystorfa.
Mae gan y Llyfrgell gopïau caled o'r rhan fwyaf o draethodau hir Prifysgol Abertawe ar lefel doethuriaeth a rhai lefel meistr tan 2019/20
Ceir gwybodaeth am yr holl draethodau ymchwil a dderbynnir gan y llyfrgell yn iFind, catalog y llyfrgell.
Ym mlwch chwilio iFind, gallwch chwilio ar sail allweddair ar gyfer eich pwnc a'r geiriau: swansea thesis. Yna gallwch ddefnyddio'r bar Mireinio i gyfyngu'r chwiliad i ystod blynyddoedd neu Golegau penodol. Os oes gennych ddiddordeb penodol mewn traethodau ymchwil diweddar, gallwch newid y fwydlen Didoli yn ôl (Sort By) ar ben y rhestr o ganlyniadau i Dyddiad diweddaraf i hynaf (Date descending) i osod y rhai diweddaraf ar frig y rhestr.
Caiff ychydig o draethodau ymchwil eu gwahardd o ddefnydd cyhoeddus am sawl blwyddyn - mae hyn fel arfer oherwydd bod gan y gwaith botensial masnachol a chan fod y myfyriwr wedi cael caniatâd y Brifysgol i beidio â’i wneud yn gyhoeddus yn syth. Os bydd hyn yn digwydd, bydd nodyn ar gofnod y catalog sy'n rhoi'r dyddiad y caiff y wybodaeth ei rhyddhau. Ni chaiff neb ddarllen y traethawd ymchwil cyn y dyddiad hwnnw.
Cedwir traethodau ymchwil DSc. a D.Litt yn y Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth. Gofynnwch amdanynt wrth Ddesg y Llyfrgell.
Mae EThOS wedi’i greu i gynnig un pwynt mynediad i draethodau ymchwil y DU ac yn chwarae rôl arwyddocaol wrth arddangos ymchwil y DU i’r byd. Mae gan EThOS, a gynhelir gan y Lyfrgell Brydeinig, fwy na 100 o brifysgolion y DU ynghlwm yn y prosiect. Gall gynnig ystod eang iawn o deitlau fel lawrlwythiadau testun llawn. Os bydd eitem rydych ei hangen eisoes yn EThOS yna mae ar gael i’w lawrlwytho i’ch bwrdd gwaith ar unwaith am ddim; os nad ydyw, gallwch brynu copi wedi’i sganio oddi wrth EThOS.
Mae Casgliad Traethodau Cymru yn cynnwys oddeutu 50,000 o draethodau a thraethodau hir a gyflwynwyd ar gyfer graddau ôl-radd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Mae'r casgliad yn cynnwys traethodau a thraethodau hir sy'n deillio o bob gradd PhD a Meistr, yn ogystal â thraethodau hir cyrsiau Meistr a addysgwyd sydd â diddordeb Cymreig neu sydd wedi derbyn rhagoriaeth.
ProQuest Dissertations & Theses Global yw casgliad mwyaf cynhwysfawr y byd o draethodau hir a thraethodau ymchwil o bob cwr o’r byd, yn dyddio o 1743 hyd at heddiw. Mae’n cynnig mynediad testun llawn i waith graddedigion a ychwanegwyd ar ôl 1997, a mynediad testun llawn i ddetholiad o waith raddedigion a ychwanegwyd cyn 1997. Mae’n cynnwys nifer sylweddol o draethodau hir a thraethodau ymchwil rhyngwladol newydd ar ffurf dyfyniadau a thestun llawn.
Os nad yw traethawd ymchwil ar gael ar-lein, gallwch gyflwyno cais i'w fenthyca drwy'r gwasanaeth Benthyciadau rhwng Llyfrgelloedd. Cysylltwch â'r tîm Cyflenwi Dogfennau am ragor o fanylion.