Rydych chi bellach yn gallu dychwelyd benthyciadau rhynglyfrgelloedd. Os ydych chi’n dod i’r campws, gallwch chi ddychwelyd eich benthyciadau rhynglyfrgelloedd gan ddefnyddio’r biniau hunan-wasanaeth ym mynedfa Llyfrgell Campws y Bae neu Lyfrgell Campws Parc Singleton yn ystod yr oriau agor a nodwyd. Os nad ydych chi yn Abertawe neu nad oes modd i chi fynychu’r campws, e-bostiwch Gwasanaethau Cyflenwi Dogfennau i drefnu dychwelyd y benthyciadau drwy’r post.
Mae llyfrgelloedd benthyca yn adalw benthyciadau rhynglyfrgellol unwaith eto ac ni fyddan nhw bellach yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig. Anfonwch e-bost aton ni os bydd angen adnewyddu eitem arnoch chi.
Os ydych chi’n hyfforddwr cwrs ac mae angen copi o bennod neu erthygl wedi’i hallanoli at ddibenion addysgu, cyflwynwch gais am ddigideiddio.
Os oes angen cynnwys hanfodol arnoch ar gyfer eich ymchwil ac nid yw ar gael yn llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe, gallwn fenthyca'r eitem neu archebu copi o lyfrgell arall i chi.
Gall y canlynol wneud cais:
Nid oes tâl am wneud cais, ond sylwer y bydd cost i'r llyfrgell. Felly, nid ydym yn annog ceisiadau oni bai fod gwir angen am yr eitemau.
Gall eich cais gael ei gyflenwi gan British Library On Demand. Pan fyddwch yn cofrestru gydag On Demand am y tro cyntaf, dylech chi aros am 5 munud ar ôl i chi gwblhau cofrestru cyn i chi lawrlwytho’ch dogfen.
Cyfarwyddiadau ar gyfer lawrlwytho'ch Archeb gan British Library On Demand
![]() |
Gallwn archebu:
|
Fel arfer, ni allwn archebu:
Gwiriwch wefan EThOS y Llyfrgell Brydeinig (y DU) a Proquest Dissertations and Theses (Byd-eang) am fynediad am ddim a mynediad drwy danysgrifiad i e-draethodau ymchwil cyn cyflwyno cais. Os nad yw traethawd ymchwil wedi cael ei ddigideiddio o'r blaen ac ni allwn ei fenthyca, mae'n bosib y gallwch brynu copi drwy'r gwasanaethau canlynol:
Oherwydd y gost uchel, nid yw'r llyfrgell yn gallu tanysgrifio i brynu'r traethodau ymchwil hyn.
I gael gwybodaeth am fynediad i draethodau ymchwil Prifysgol Abertawe, darllenwch Ganllaw'r Llyfrgell i E-draethodau Ymchwil a Thraethodau Ymchwil.
Ceisiadau am Fenthyciad/Copi | Am ddim |
---|---|
Adnewyddu |
Adnewyddu'r tro cyntaf - Am ddim Adnewyddu'r eildro - £5 |
Ceisiadau Rhyngwladol | £10 |
Ffi am Beidio â Chasglu Benthyciad | £10 |
Ffi Dychwelyd yn Hwyr | £1 fesul dydd |
Ffi am Golli Benthyciad a Phrynu Copi Arall | £182.80 (ffi safonol y Llyfrgell Brydeinig) |
![]() |
Fel arfer, rydym yn darparu eitemau o fewn yr amserau canlynol:
Fodd bynnag, gall benthycwyr amrywio o ran eu hamserau cyflenwi, felly rydym yn argymell eich bod yn caniatáu hyd at 10 niwrnod gwaith i'ch eitem gael ei darparu. I ganslo cais, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib. |
![]() |
BenthyciadauBydd benthyciadau ar gael i'w casglu yn y llyfrgell a nodwyd gennych yn eich cais a byddwch yn derbyn e-bost i'ch hysbysu pan fyddant yn barod i'w casglu. Y llyfrgell fenthyca sy'n penderfynu ar gyfnodau benthyca ond, fel arfer, cewch hyd at bedair wythnos. Sylwer hefyd, gall rhai benthyciadau fod ar gael i gyfeirio atynt yn y llyfrgell yn unig. Codir ffi o £10 am beidio â chasglu benthyciadau. Rydym wedi cyflwyno'r ffi hon i fynd i'r afael â chynnydd mewn benthyciadau nad ydynt yn cael eu casglu, ac i leihau gwastraff arian.
Copïau o erthyglau a phenodauA PDF copy will be delivered to your university email address. Eitemau a ddarperir gan British Library On DemandByddwch yn derbyn dolen gan noreply@bldss.bl.uk i lawrlwytho'r eitem. Bydd y ddolen yn dod i ben 30 o ddiwrnodau ar ôl ei hanfon, felly rydym yn eich argymell i lawrlwytho'ch dogfen cyn gynted â phosib. Cyfarwyddiadau ar gyfer lawrlwytho'ch Archeb gan British Library On Demand |
![]() |
Nid yw benthyciadau rhwng llyfrgelloedd yn adnewyddu'n awtomatig. I wneud cais am adnewyddu, cysylltwch â Gwasanaethau Cyflenwi Dogfennau drwy e-bost neu drwy ffonio +44 (0)1792 295045. Adnewyddu'r tro cyntaf: Am ddim Adnewyddu'r Eildro: £5 fesul benthyciad (caiff ei ychwanegu at eich cyfrif llyfrgell)
Gadewch ddigon o amser i'ch cais am adnewyddu gael ei brosesu. Mae ceisiadau am adnewyddu'n amodol ar ganiatâd y benthyciwr a gellir adalw benthyciadau unrhyw bryd. |
Gwasanaethau Cyflenwi Dogfennau
Llyfrgell Parc Singleton
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Y Deyrnas Unedig
Ffôn: +44 (0)1792 295045
E-bost: Cyflenwi Dogfennau
Mynediad i gynnwys testun llawn, Mynediad Agored, am ddim ac yn gyfreithlon.
Powered by Open Access Button
Sut i wneud cais am ddeunydd:
Gellir gwneud cais am lungopïau neu i fenthyca deunydd a gedwir gan Brifysgol Abertawe drwy anfon e-bost atom neu drwy ysgrifennu i'n cyfeiriad post. Cofiwch gynnwys eich rhif ffôn a'ch cyfeiriadau post ac e-bost gyda phob cais. Os ydych yn gwsmer yn y DU, rhowch rif eich cyfrif yn y Llyfrgell Brydeinig gyda phob cais.
Ffioedd:
Copïau – £9.80 + TAW (£11.46)
Benthyciadau – £15.80
Codir cyfradd gyfredol cynllun CONARLS ar aelodau.
Rydym yn derbyn talebau IFLA i dalu am fenthyciadau neu lungopïau rhyngwladol.
Benthyciadau – 3 IFLA
Copïau – 2 IFLA
Argaeledd Deunyddiau:
Caiff yr holl eitemau eu benthyca am chwe wythnos a gellir eu hadnewyddu am chwe wythnos ychwanegol oni nodir yn wahanol. Gellir cyfyngu rhai eitemau at ddefnydd o fewn eich sefydliad yn unig, e.e. traethodau ymchwil. Gwiriwch ein catalog cyn gwneud cais am eitem i sicrhau y gellir ei benthyca.
Byddwn yn benthyca:
Llyfrau a argraffwyd ar ôl 1900.
Traethodau ymchwil i'w defnyddio o fewn eich sefydliad yn unig (llyfrgelloedd y DU yn unig). Gall llyfrgelloedd y tu allan i'r DU ofyn am amcangyfrif o gost darparu llungopi o draethawd ymchwil.