Mae'n bwysig eich bod yn darllen Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Bydd methu cydnabod gwaith rhywun arall (h.y. cyfeirio ato'n gywir mewn papur) yn arwain at ganlyniadau difrifol.
Diffinnir llên-ladrad fel defnyddio gwaith rhywun arall, heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i'w asesu fel petai'n waith y myfyriwr; er enghraifft trwy gopïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Os oes angen cyngor ychwanegol ar sut i osgoi llen-lladrad cwbwlhewch y tiwtorial ar-lein Llwyddiant academaidd: Sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd ar gael trwy Canvas.
Gofynnwch i’ch darlithydd os nad ydych chi’n ansicr o ran pa arddull gyfeirnodi i’w defnyddio ar gyfer eich aseiniad.
Gofynnwch i’ch darlithydd os nad ydych chi’n ansicr o ran pa arddull gyfeirnodi i’w defnyddio ar gyfer eich aseiniad.
Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.)
Bydd EndNote:
|
I ddarganfod mwy am EndNote ymwelwch â'n Canllaw Llyfrgell EndNote.
Mae Mendeley yn eich galluogi i gasglu, rheoli a defnyddio cyfeiriadau rydych yn eu canfod yn eich gwaith ymchwil. Gellir ei ddefnyddio gyda Word i ychwanegu dyfyniadau a llunio rhestr gyfeirio mewn dogfen. Mae elfen gwe i Mendeley y gellir ei defnyddio gydag unrhyw borwr y we; serch hynny bydd angen i chi ddefnyddio’r elfen bwrdd gwaith i ddefnyddio’r Citation Plugin gyda Word. Mendeley yn rhad ac am ddim. Bydd Mendeley yn gwneud y canlynol:
I gael gwybod mwy gweler y canllaw Mendeley.