Oherwydd newid diweddar i’n System Gwybodaeth Ymchwil (RIS), ni allwn arddangos cofnodion E-Draethodau yn Cronfa. Rydym yn gweithio ar ffordd o ddatrys y broblem hon a bydd modd cael mynediad at y cofnodion a’r testun llawn eto’n fuan.
Ar gyfer ymholiadau’n ymwneud ag e-draethodau ymchwil cysylltwch â thîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell openaccess@abertawe.ac.uk
Ar gyfer ymholiadau’n ymwneud a’r ystorfa, cysylltwch ag ISS-Research@abertawe.ac.uk
Ffôn: 01792 604567
Mae’r Llyfrgell yn falch o gynnig gwasanaeth ystorfa e-draethodau ymchwil cyfryngol ar gyfer traethodau ymchwil PhD Prifysgol Abertawe. Mae hwn yn wasanaeth swyddogol ar y cyd â’r Gwasanaethau Academaidd.
O fis Hydref 2017, bydd disgwyl i bob myfyriwr PhD newydd ddarparu fersiwn electronig mynediad agored o’i draethawd ymchwil PhD ar ôl cwblhau ei astudiaethau’n llwyddiannus. Byddwn yn annog unrhyw fyfyrwyr ôl-raddedig eraill yn gryf i ddarparu fersiwn electronig mynediad agored o’u traethawd ymchwil PhD.
Er mwyn dewis pa ddull cyflwyno sydd fwyaf priodol i chi, dylech ystyried:
Mae traethawd ymchwil mynediad agored:
Yn ogystal â’r wybodaeth sydd ar gael yn y Canllaw hwn gan y Llyfrgell, mae tîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell yn cynnal sesiynau hyfforddi i edrych ar faterion yn ymwneud â darparu e-draethawd ymchwil testun cyflawn i’r ystorfa sefydliadol. Mae’r llyfrgell yn rhan o raglen datblygu sgiliau myfyrwyr ôl-raddedig y brifysgol. Rydym yn cynnig cyngor ar gyflwyno e-draethawd ymchwil trwy e-bost neu gymorth unigol.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.