Mae'r llyfrgell a'r Ganolfan ar gyfer Llwyddiant Academaidd yn gweithio gyda'i gilydd i gyflwyno Wythnos Sgiliau i chi. Dyma gyfle i ddatblygu eich sgiliau academaidd mewn wythnos o ddosbarthiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein ar ysgrifennu traethawd hir, sgiliau arholiad a llawer mwy!
Gallwch weld yr amserlen llawn a bwcio ar gynifer o sesiynau ag y mynnwch ar-lein. Mae'r sesiynau ar gael i unrhyw un, ond gallent fod yn arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr sy'n gweithio ar draethodau estynedig a phrosiectau ymchwil.