Croeso!

Gall Llyfrgelloedd ac Archifau Prifysgol Abertawe eich cefnogi mewn sawl ffordd. Un ffordd yw trwy Ganllawiau’r Llyfrgell sydd ar gael ar-lein yn libguides.swansea.ac.uk.

Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ddod o hyd i adnoddau pwnc sy’n llawn gwybodaeth academaidd o safon. Maent yn cynnwys manylion cyswllt eich Llyfrgellwyr Pwnc sy’n gallu eich helpu wrth ddod o hyd i ddeunydd ar gyfer eich aseiniadau, eich traethodau hir a’ch ymchwil. Hefyd gallant eich helpu gyda chyfeirnodi APA, MHRA, OSCOLA a Vancouver. 

Gallwch gysylltu â’ch Llyfrgellwyr Pwnc drwy: 

  • E-bost - fe welwch e-bost cyswllt eich tîm pwnc ar y Canllaw Llyfrgell ar gyfer eich pwnc - gweler libguides.swansea.ac.uk
  • Defnyddio ein sgwrs ar-lein Gofyn i Lyfrgellydd, sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm. Cliciwch ar y ddolen Gofyn i Lyfrgellydd las ar libguides.swansea.ac.uk
  • Cadw apwyntiad ar-lein gan ddefnyddio Zoom. Byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i osod Zoom, ynghyd â’r ddolen i ‘Wneud apwyntiad ar-lein (Zoom)’ yng nghanllaw llyfrgell eich pwnc – gweler libguides.swansea.ac.uk

Mae ein llyfrgelloedd ar agor, ond o ganlyniad i’r angen i gynnal pellter cymdeithasol, ac yn unol â pholisi’r Brifysgol, rhaid cofrestru o flaen llaw ar gyfer gweithgareddau hanfodol ac mae mynediad iddynt yn gyfyngedig, y gwasanaeth Gwneud Cais a Chasglu llyfrau er enghraifft.

Am wybodaeth am sut i gyrchu ein gwasanaethau llyfrgell yn ddiogel, ewch i: https://www.swansea.ac.uk/library/covid19/   

NEWYDD! Mannau astudio / CP i'w harchebu

Dolenni i’ch helpu i ddechrau arni wrth ddefnyddio gwasanaethau ac adnoddau’r Llyfrgell:

Er mwyn eich helpu i wneud y defnydd mwyaf o’r llyfrgell, rydym wedi llunio rhestr o ddolenni defnyddiol.

  • Ble gallaf gael yr wybodaeth ddiweddaraf am fynediad i adeiladau a chyfleusterau’r llyfrgell yn ystod pandemig  COVID-19

        https://www.swansea.ac.uk/cy/ggs/llyfrgelloedd/covid19/

  • Ble gallaf gasglu fy ngherdyn adnabod myfyriwr?

 https://www.swansea.ac.uk/cy/ggs/llyfrgelloedd/casglu-cardiau-adnabod/

  • Ble gallaf gael cymorth gyda Wi-fi, e-bost, Canvas, Zoom...?

https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/gwasanaethau-tg/

  • Pa adnoddau a chymorth ar-lein sydd ar gael i mi?

          https://libguides.swansea.ac.uk/Llyfrgell-arlein

  • A oes unrhyw gymorth ychwanegol ar gael? Edrychwch ar

Gymorth Llyfrgell Estynedig i fyfyrwyr:

https://www.swansea.ac.uk/cy/ggs/llyfrgelloedd/cymorth-llyfrgell-estynedig/

  • I gael mwy o wybodaeth am lyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton, edrychwch ar y Canllawiau hyn:

 https://www.swansea.ac.uk/cy/ggs/llyfrgelloedd/cymorth-llyfrgell-estynedig/gwasanaethau-cynhwysol/  

Mae’r amseroedd rydym yn byw ynddynt yn eithriadol. Felly os oes angen help arnoch, neu os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch helpu.

Ffôn: 01792 295500

E-bost: customerservice@abertawe.ac.uk

Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar-lein neu yn bersonol yn y Llyfrgelloedd yn y dyfodol agos.