Dros y ddau ddydd diwethaf, rydych chi wedi ychwanegu rhai cyfeiriadau â llaw a mewnforio rhai o iFind. Dylai fod gennych nifer o gyfeiriadau wedi’u cadw yn Endnote bellach. Heddiw, byddwn yn trafod sut gallwch drefnu a rhannu’r cyfeiriadau hyn.

Yn EndNote Online, gallwch gasglu cyfeiriadau cysylltiedig mewn grwpiau. Gallwch greu grŵp ar gyfer pwnc penodol neu ar gyfer pob pennod mewn traethawd hir. Wrth gynnwys cyfeiriad mewn grŵp, ni fydd yn cael ei ddileu o’ch rhestr yn My References. Felly, mae modd cynnwys cyfeiriad mewn mwy nag un grŵp.

I greu grŵp:

  • Ewch i Organize
  • Dewiswch New Group
  • Bydd ffenestr yn agor; rhowch enw newydd i’ch grŵp.

I ychwanegu cyfeiriadau newydd at eich grŵp:

  • Ewch i My References
  • Dewiswch rai cyfeiriadau drwy dicio’r blwch nesaf at y cyfeiriad.
  • Yn union uwchben eich rhestr o gyfeiriadau, byddwch yn gweld cwymplen, Add to group.
  • Dewiswch eich grŵp.

Bydd y cyfeiriadau a ddewiswyd gennych yn cael eu hychwanegu at y grŵp. Ar ochr chwith y sgrîn, byddwch yn gweld blwch My References sy’n rhestru’r grwpiau sydd gennych yn eich llyfrgell. Dylech chi weld y grŵp a grëwyd gennych ynghyd â nifer o gyfeiriadau nesaf ato.

  • Cliciwch ar ddolen enw’r grŵp i weld y cyfeiriadau yn y grŵp hwn.

Gallwch rannu grwpiau penodol â defnyddwyr EndNote eraill. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych yn cydweithio ar aseiniad.

  • Cliciwch ar Organize
  • Ar y dudalen Manage My Groups, cliciwch y blwch yn y golofn Share i’w dicio.

  • Cliciwch y botwm Manage Sharing ar gyfer y grŵp priodol. Ar y sgrîn nesaf, cliciwch y ddolen sy’n dweud Start sharing this group. Bydd ffenest naid yn ymddangos lle gallwch deipio cyfeiriadau e-bost unrhyw bobl yr hoffech rannu’r grŵp â nhw.
  • Gallwch benderfynu rhoi caniatâd Read & Write neu Read Only hefyd

Yn y sesiwn yfory, byddwch yn dysgu sut i greu llyfryddiaeth/rhestr gyfeiriadau seml.