Mannau Astudio/CP i’w harchebu
Mae bellach mwy o fannau Astudio/CP ar gael i'w harchebu yn Llyfrgell Parc Singleton a Llyfrgell y Bae. Mae'r rhain ar gael i'n holl fyfyrwyr. Gall pob man cael ei archebu am gyfnod o dair awr o 9yb-12yp neu 2yp-5yp, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Cewch archebu un cyfnod o dair awr yr wythnos yn unig, a gallwch archebu hyd at ddwy wythnos o flaen llaw.
Rydym hefyd wedi cynyddu'r nifer o fannau CP Ôl-raddedig sydd ar gael yn Ystafell 401D yn Llyfrgell Parc Singleton. Gall y mannau yn yr ystafell hon cael eu harchebu gan fyfyrwyr ôl-raddedig yn unig. Gall pob man CP Ôl-raddedig cael ei archebu am un cyfnod o 8 awr yr wythnos o 9yb - 5yp, Dydd Llun i Ddydd Gwener.
- Mae'r mannau hyn ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn unig ar gyfer defnydd unigol, tawel a bydd angen i chi dangos eich cerdyn adnabod i fynd i mewn i'r Llyfrgell.
- Gallwch archebu lle hyd at ddwy wythnos o flaen llaw.
- Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau pan fydd eich archeb wedi’i gwblhau. Bydd angen i chi dangos yr e-bost a'ch cerdyn adnabod myfyriwr i fynd i mewn i'r Llyfrgell.
- Bydd yn ofynnol i chi ddefnyddio hylif diheintio a pharchu'r rheoliadau ymbellhau cymdeithasol ar bob adeg.
- Mae toiledau ar gael yn y Llyfrgell ond dydy bwyd a diod ddim ar gael.
- Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch customerservice@abertawe.ac.uk neu ffoniwch (01792) 295500. Os bydd angen i chi siarad ag aelod o staff yn y Llyfrgell, ewch i'r Ddesg Diogelwch wrth y fynedfa os gwelwch yn dda.
Archebwch fan Astudio/CP Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe ar y tudalen archebu hwn.