Mae heddiw yn Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang (GAAD). Mae’n ddiwrnod i gynyddu ymwybyddiaeth am gynhwysiant digidol a’r rhwystrau y mae nifer o bobl anabl yn eu hwynebu. Trwy newidiadau syml, gallwn ni wneud pethau yn fwy hygyrch i bawb. Darllenwch bostiad Sofie O’Shea ar adolygiad Gwasanaethau Cyflenwi Dogfennau’r Llyfrgell o’u tudalennau gwe er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch. Allech chi wneud newidiadau er mwyn bod yn fwy cynhwysol? Dyma rai enghreifftiau:
- Ychwanegwch destun amgen i ddisgrifio delweddau rydych chi’n eu defnyddio (mae hyn yn cynnwys ffotograffau a ffeiliau GIF a rennir ar gyfryngau cymdeithasol)
- Sicrhewch fod capsiynau eich fideos yn gywir
- Sicrhewch fod eich testun yn ddarllenadwy e.e. defnyddiwch o leiaf faint testun12 pwynt a ffont sans-serif megis Arial; defnyddiwch liwiau testun sy’n gwrthgyferbynnu’n dda â’r cefndir
- Defnyddiwch Accessibility Checker i wirio eich ffeiliau Word, PowerPoint, Excel ac Outlook rhag ofn bod materion hygyrchedd y gallech chi eu gwella
Gall staff Prifysgol Abertawe wirio’r arweiniad a’r cyngor a gasglwyd gan Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS) i sicrhau bod deunydd dysgu yn hygyrch i ragor o bobl.