Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe’n dymuno pob lwc i chi yn eich asesiadau diweddar.
I’r rhai hynny ohonoch sy’n gorffen eich astudiaethau ac sy’n gadael Abertawe, pob lwc!
Peidiwch ag anghofio dychwelyd unrhyw eitemau y benthycoch i’r llyfrgell a thalu unrhyw ddirwyon ar eich cyfrif. Caiff eich cyfrif TG ei gau pan ddaw eich cwrs i ben. Cofiwch roi cyfeiriad e-bost arall i’ch cysylltiadau a chadw unrhyw ddata personol y bydd efallai ei angen arnoch yn y dyfodol. Cymerwch olwg ar y rhestr wirio cau cyfrifon.
I’r rhai ohonoch fydd yn dychwelyd ym mis Medi, nodwch:
- Os bydd gennych lyfrau neu gyfnodolion ar fenthyg dros yr haf, bydd y rhain yn parhau i adnewyddu’n awtomatig ac ni fydd angen i chi boeni amdanynt oni bai fod rhywun arall yn gofyn i’w benthyg. Os bydd hyn yn digwydd, byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn i chi ddychwelyd yr eitem(au) o fewn 14 diwrnod. Os ydych yn bwriadu cadw eitemau dros yr haf, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich cyfrif e-bost Prifysgol yn rheolaidd.
- Gofynnir i chi ddychwelyd gliniaduron sydd dal ar fenthyg yn brydlon i’r cypyrddau clo hunanwasanaeth yn y Llyfrgell o ble fenthycoch chi nhw. Ni fydd y rhain yn adnewyddu’n awtomatig a chodir dirwy o £10.00 y dydd.
- Os oes gennych unrhyw bryderon am ddychwelyd eitemau, rhowch wybod i’r tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar unwaith. Gallwch ddychwelyd llyfrau i ni trwy’r post, os oes angen. Ewch i dudalennau gwe y Llyfrgell am fanylion cyswllt a chyfeiriadau post.
Os ydych yn defnyddio Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe dros yr Haf:
- O 1 Mehefin tan 29 Awst, bydd oriau agor yr haf yn Llyfrgelloedd Parc Singleton a’r Bae o 8am tan hanner nos, ond bydd Llyfrgell Parc Singleton yn cau am 6pm ar ddydd Iau, 2 Mehefin ar gyfer Dawns yr Haf.
- O 3 Mehefin, bydd Llyfrgelloedd Parc Singleton a’r Bae ar agor o 8am tan hanner nos saith niwrnod yr wythnos.
- Cewch hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am oriau agor ein holl lyfrgelloedd ar ein tudalennau gwe.
- Bydd Gwasanaeth Mynediad Cyfrifiadur Personol o bell i gyfrifiaduron myfyrwyr yn parhau i fod ar gael.
- Bydd benthyciadau hunanwasanaeth gliniaduron am bythefnos yn parhau i fod ar gael o Lyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton. Nid oes modd adnewyddu’r rhain ac mae’n rhaid eu dychwelyd i’r cwpwrdd clo o ble daethon nhw erbyn y dyddiad dychwelyd.
- Bydd modd i chi gysylltu â Llyfrgellwyr Pynciol trwy sgwrsio ar-lein neu gellir cael apwyntiadau unigol. Ceir manylion llawn yng Nghanllawiau’r Llyfrgell.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Byddwn yn gwneud gwelliannau i adeilad a mannau astudio Llyfrgell Parc Singleton dros yr haf, ac ymddiheurwn o flaen llaw am unrhyw darfu a diolchwn i chi am eich amynedd a dealltwriaeth wrth i ni gwblhau’r gwaith.
Croesawn eich adborth ac awgrymiadau am sut gallwn wella a byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn cysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid i’w rhannu.