Mae gan EndNote nodwedd o’r enw Cite While You Write sy’n caniatáu i chi ddefnyddio’r cyfeiriadau sydd wedi’u storio yn eich llyfrgell EndNote ar-lein i greu dyfyniadau, troednodiadau a rhestrau o gyfeiriadau mewn dogfen Microsoft Word.
Ar gyfrifiaduron Prifysgol Abertawe, bydd rhaid i chi ddefnyddio’r eicon EndNote plugins (ar-lein). Mae hyn ar gael yn y ffolder Common Apps ar y bwrdd gwaith unedig.
Os ydych yn defnyddio’ch cyfrifiadur eich hun yn hytrach nag un y brifysgol, bydd angen i chi lawrlwytho ategolion EndNote ar gyfer Word. I wneud hyn, mewngofnodwch i EndNote Online ac yna dewiswch Downloads.
Ar ôl i chi lawrlwytho’r ategolyn EndNote, bydd tab EndNote gennych yn Word. Os nad oes tab EndNote gennych, cysylltwch â’r llyfrgell am gymorth.
- Agorwch Word a chreu dogfen newydd.
- Ewch i’r tab EndNote a chliciwch Preferences.
- Cliciwch y tab Application a newidiwch hwn i EndNote Online. (Mae’n bosib y bydd tab EndNote Online i’w weld eisoes. Os felly, ni fydd angen newid unrhyw beth). Os nad oes tab EndNote ar gael o gwbl, caewch Word a chliciwch ddwywaith ar yr eicon ategolion EndNote yn y ffenestr cymwysiadau i’w lwytho.
- Bydd blwch deialog yn gofyn i chi am eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair EndNote – teipiwch y rhain.
Nawr gallwch ddefnyddio EndNote i ychwanegu dyfyniadau wrth i chi ysgrifennu.
- Teipiwch y canlynol:
Roedd y llyfr hwn yn ddefnyddiol yn ystod fy astudiaethau
- Cliciwch Insert Citations. Teipiwch marshall yn y blwch chwilio a chliciwch Find. Amlygwch y cyfeiriad “How to study and learn” a chliciwch Insert. Bydd EndNote yn gosod dyfyniad (awdur a blwyddyn) yn eich testun ac yn ychwanegu’r cyfeiriad llawn ar ddiwedd eich dogfen.
- Teipiwch:
Roedd y canlynol yn ddefnyddiol hefyd
- Cliciwch Insert Citations ac ychwanegwch gyfeiriad arall rydych chi wedi’i gadw yn EndNote.
Bob tro rydych chi’n cynnwys dyfyniad, caiff y cyfeiriad ei ychwanegu’n awtomatig at restr o gyfeiriadau ar ddiwedd y ddogfen.
Gallwch newid yr arddull gyfeirnodi. Bydd Word yn dangos yr arddulliau cyfeirnodi rydych chi wedi’u hychwanegu at eich ffefrynnau yn EndNote. Os nad yw’r un rydych am ei defnyddio wedi’i rhestru yn Word, bydd rhaid i chi ddewis yr arddull yn EndNote Online. I wneud hyn, cliciwch ar y tab Format ac yna Bibliography, wedyn Select Favourites. Dyma rai o arddulliau cymeradwy Prifysgol Abertawe:
- APA 7th (arddull awdur a dyddiad)
- APA 6th Swansea (arddull awdur a dyddiad)
- Vancouver Swansea (arddull rifol)
- MHRA Swansea (arddull troednodiadau)
Os ydych chi wedi ychwanegu arddull newydd at eich Ffefrynnau, bydd angen i chi gau Word a’i ailagor i ddethol yr arddulliau a ychwanegwyd gennych.
Wrth i chi newid yr arddull gyfeirio yn Word, bydd y dyfyniadau yn y testun a’r rhestr gyfeiriadau’n cael eu diweddaru’n awtomatig.
Rydym wedi cyrraedd diwedd ‘5 niwrnod o EndNote’. Gobeithiwn y bu’n ddefnyddiol i chi a’ch bod yn gweld sut gall EndNote eich helpu. Cynlluniwyd y cwrs hwn i roi digon o wybodaeth i’ch galluogi i ddechrau defnyddio EndNote. Os hoffech ddysgu mwy, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Canllaw’r Llyfrgell i Endnote a gallwch gysylltu â’ch tîm pwnc y llyfrgell am gymorth a chyngor.