Mae EndNote yn offeryn sy’n gallu eich helpu i storio a threfnu’r cyfeiriadau byddwch yn dod o hyd iddynt yn eich ymchwil. Wedyn gallwch gynnwys dyfyniadau a rhestr gyfeiriadau wedi’i fformatio’n llawn yn eich dogfennau Word.
Heddiw, byddwn yn creu cyfrif EndNote Online ac ychwanegu cyfeiriad.
Mae EndNote online ar gael am ddim i bawb ond tra eich bod yn y Brifysgol, cewch fynediad at ystod o arddulliau cyfeirnodi ychwanegol, gan gynnwys y rhai y mae’r Brifysgol wedi’u cymeradwyo.
- Ewch i http://wok.mimas.ac.uk a mewngofnodwch i Web of Science gyda’ch enw defnyddiwr prifysgol a’ch cyfrinair. (Bydd hyn yn dangos eich bod yn gysylltiedig â’r Brifysgol).
- Cliciwch ar EndNote ar ben y sgrin.
- Cliciwch ar gofrestru a chwblhewch y ffurflen ar-lein.
- Bydd angen i chi feddwl yn ofalus am gyfrinair – rhaid bod ganddo o leiaf un llythyren, un rhif ac un symbol.
- Sylwer, byddwch yn defnyddio’r enw defnyddiwr a’r cyfrinair a grëwyd gennych i gael mynediad i EndNote yn y dyfodol, nid eich manylion mewngofnodi arferol yn y Brifysgol. Y rheswm dros fewngofnodi fel aelod o’r Brifysgol i ddechrau yw y cewch fanteisio ar arddulliau ychwanegol, gan gynnwys rhai swyddogol y Brifysgol, nad ydych yn eu cael yn y fersiwn rhad ac am ddim.
Oddi ar y campws
- Ewch i http://wok.mimas.ac.uk
- Cliciwch y botwm porffor a dewis yr opsiwn mewngofnodi fel sefydliad.
- Dewiswch ‘Swansea University’ yna mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn y Brifysgol. Pan fyddwch wedi mewngofnodi, dilynwch yr un camau ag uchod.
Nawr eich bod wedi creu cyfrif, awn ati i ychwanegu gwybodaeth gyfeirio at Endnote Byddwn yn dechrau drwy ddysgu ychwanegu cyfeiriad â llaw. Ni fydd angen i chi wneud hyn yn aml: y rhan fwyaf o’r amser, byddwch yn ychwanegu’r cyfeiriadau wrth i chi ddod o hyd i’r wybodaeth. Mae’n ddefnyddiol dysgu sut i ychwanegu cyfeiriad â llaw oherwydd y bydd hyn yn eich helpu os bydd angen golygu cyfeiriad ar ôl ei fewnforio.
Ychwanegu cyfeiriadau â llaw
- Cliciwch ar y tab Collect ac yna cliciwch ar New Reference
- Defnyddiwch y gwymplen i newid y math o gyfeiriad i book
- Cofnodwch y cyfeiriad canlynol gan ddefnyddio’r testun yn y blychau:
Canllawiau call ar gyfer ychwanegu cyfeiriadau â llaw.
- Wrth i chi ddechrau teipio, bydd blwch mwy yn agor. Bydd hwn yn caniatáu i chi ddefnyddio dulliau fformatio megis teip trwm, tanlinellu, ayb. Fel arfer, does dim angen gwneud hyn oherwydd bydd EndNote yn fformatio’ch cyfeiriadau pan fydd angen, ond gall fod yn ddefnyddiol os hoffech chi wneud rhywbeth sy’n wahanol i’r arddull safonol, er enghraifft, pwysleisio gair penodol yn y teitl.
- Peidiwch â rhoi atalnod llawn ar ddiwedd y teitl – bydd EndNote yn ychwanegu atalnodau yn ôl yr angen.
- Mae’n rhaid i chi bob amser nodi’r wybodaeth sylfaenol (megis awdur, teitl a’r dyddiad cyhoeddi) y byddai angen i chi ei chynnwys mewn cyfeiriad. Ceir meysydd dewisol hefyd (megis allweddeiriau, rhif galw, nodiadau ayb) y gallwch eu defnyddio os ydynt yn ddefnyddiol i chi.
Bydd EndNote yn cadw’ch cyfeiriad yn awtomatig wrth i chi weithio, ond bydd angen clicio ar y botwm Save i orffen.
Caiff y cyfeiriad a ychwanegwyd gennych ei restru yn My References.
Yfory, byddwch yn dysgu sut i fewnforio gwybodaeth gyfeirio o iFind.