Mae’r sesiwn hon yn esbonio ffordd hawdd o greu rhestr o’ch cyfeiriadau gan ddefnyddio EndNote Online. Bu’r sesiynau blaenorol yn ymdrin â chreu cyfrif, ychwanegu gwybodaeth gyfeirio at eich cyfrif Endnote a threfnu’r wybodaeth honno.
I greu rhestr gyfeiriadau
- Cliciwch ar y tab Format. Byddwch yn gweld y sgrîn isod (Mae’r opsiwn Bibliography ar y tab hwn yn cael ei ddethol yn awtomatig).
- Nesaf at References: dewiswch y grŵp a grëwyd gennych. Gallwch ddewis unrhyw grŵp neu eich holl gyfeiriadau.
- Nesaf at Bibliographic style: dyma ble bydd angen i chi ddewis yr arddull gyfeirio yr hoffech ei defnyddio. Os nad yw’r arddull mae ei hangen arnoch yn y rhestr, dilynwch y tri cham nesaf.
- Cliciwch Select Favourites
- O’r opsiwn All list ar y chwith, dewiswch yr arddull yr hoffech ei defnyddio.
Dyma rai arddulliau cymeradwy Prifysgol Abertawe: APA 6th Swansea (arddull awdur a dyddiad), Vancouver Swansea (rhifol) ac MHRA Swansea (troednodiadau).
- Cliciwch Copy to Favuorites. Yna caiff eich dewisiadau eu hychwanegu at y rhestr o arddulliau rydych yn eu gweld yn y gwymplen ar gyfer arddull lyfryddiaethol.
Ar ôl i chi ddewis yr arddull gyfeirnodi yr hoffech ei defnyddio
- Dewiswch RTF o’r gwymplen File format. Gallwch agor y fformat hwn ar unrhyw brosesydd geiriau ac mae’n rhoi fformat gwell na thestun plaen.
- Cliciwch ar Save. Byddwch yn gweld neges yn gofyn a ydych chi am gadw neu agor y ffeil.
- Dewiswch Open a dylech chi weld rhestr wedi’i fformatio o’r eitemau yn eich grŵp.
Heddiw, rydych chi wedi dysgu ffordd hawdd a chyflym o greu rhestr o’ch cyfeiriadau mewn arddull o’ch dewis. Yfory, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio EndNote gyda Word i gynnwys dyfyniadau a chyfeiriadau wrth i chi ysgrifennu’ch aseiniadau.