Nadolig llawen – beth hoffech chi ei gael gan y Llyfrgell yn 2023?
Ewch i Lyfrgell y Bae neu Lyfrgell Parc Singleton a byddwch yn gweld tagiau i nodi dymuniad i wella’r llyfrgelloedd arnyn nhw a chael cyfle i glymu nhw ar y goeden. Gallwch chi hefyd ysgrifennu rhestr o ddymuniadau i’w hanfon at Siôn Corn os oes gennych lawer ohonynt! Yn y flwyddyn newydd, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am ddymuniadau defnyddwyr y Llyfrgell a'r hyn rydyn ni'n ei wneud i roi gwelliannau ar waith.
Rydyn ni'n gofyn i chi am eich mewnbwn yn rheolaidd ac rydyn ni bob amser yn ceisio troi eich ceisiadau yn welliannau go iawn. Yn y llyfrgelloedd, byddwch chi'n gweld rhestr fanwl o ddymuniadau sydd wedi eu cyflawni, a rhai ceisiadau sydd yn yr arfaeth o hyd – felly cadwch lygad mas am welliannau eraill! Cofiwch fod angen i chi rannu eich rhestr o welliannau llyfrgell â ni er mwyn ein helpu i wybod beth dylen ni weithio arno, felly mae croeso i chi roi eich adborth i ni.
Oriau yn ystod y gwyliau
Bydd Llyfrgell y Bae a Llyfrgell Parc Singleton yn cau am 5pm ar 24 Rhagfyr. Bydd y llyfrgelloedd yn ailagor am 8am ar 27 Rhagfyr ac yn aros ar agor ddydd a nos tan 5pm ar 31 Rhagfyr. Bydd y llyfrgelloedd yn ailagor a byddan nhw ar gael ddydd a nos o 8am ar 2 Ionawr.
Bydd staff y desgiau gwybodaeth ar gael yn ystod y gwyliau ac eithrio 25, 26 a 27 Rhagfyr ac 1 a 2 Ionawr. Gweler yr oriau agor ar ein tudalennau gwe i gael manylion llawn ein llyfrgelloedd a'n gwasanaethau yn ystod y gwyliau.
Benthyciadau yn ystod gwyliau'r Nadolig
Os oes gennych lyfrau neu gyfnodolion ar fenthyg yn ystod y gwyliau, byddan nhw'n parhau i adnewyddu'n awtomatig.
Nid oes modd adnewyddu benthyciad gliniadur. A wnewch chi ddychwelyd unrhyw liniaduron sydd wedi'u benthyca'n brydlon. Ni fydd y rhain yn adnewyddu'n awtomatig, a bydd y dirwyon yn costio £10.00 y dydd.
Ni fyddwn ni'n gofyn i chi ddychwelyd llyfrau na chyfnodolion yn ystod y gwyliau – os na ofynnir i chi ddychwelyd eitemau erbyn dydd Sadwrn 10 Rhagfyr yna byddan nhw'n adnewyddu yn y cyfamser.
Hyd yn oed os bydd defnyddiwr arall yn gofyn am eich eitem yn ystod y gwyliau, ni fydd angen ei dychwelyd cyn dydd Mawrth 10 Ionawr.
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Llyfrgell MyUni.
Rydyn ni'n dymuno gwyliau hapus i chi!