Nadolig Llawen - beth hoffech ei gael gan y Llyfrgell yn 2022?

Ewch i Lyfrgell y Bae neu Lyfrgell Parc Singleton lle byddwch yn gweld tagiau anrhegion i ysgrifennu dymuniad i wellhau’r Llyfrgell arnynt a'u clymu wrth y goeden.  Ym mis Ionawr byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddymuniadau defnyddwyr ein llyfrgelloedd a'r hyn y byddwn yn ei wneud i wneud gwelliannau.

Oriau agor dros y gwyliau

Bydd Llyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton yn parhau i fod ar agor am 24 awr a bydd staff yn gweithio ar y Desgiau Gwybodaeth ac eithrio ar 25 Rhagfyr, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr. Gweler ein tudalennau gwe oriau agor am fanylion llawn ein holl lyfrgelloedd a gwasanaethau dros y gwyliau.

Benthyciadau dros y gwyliau

• Os oes gennych lyfrau neu gyfnodolion ar fenthyg dros y cyfnod gwyliau, bydd y rhain yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig ac nid oes angen ichi boeni amdanynt oni bai fod defnyddiwr arall yn y Llyfrgell yn gwneud cais amdanynt.

• A wnewch chi ddychwelyd unrhyw liniaduron sydd wedi'u benthyca'n brydlon. Ni chaiff y rhain eu hadnewyddu'n awtomatig a chodir dirwyon o £10.00 y diwrnod.

• Os bydd defnyddiwr arall yn y Llyfrgell yn gwneud cais am eitem sydd gennych chi, byddwch yn derbyn neges e-bost i'ch cyfrif myfyriwr er mwyn rhoi gwybod i chi. A wnewch chi ddychwelyd yr eitem erbyn y dyddiad a nodir yn yr e-bost. Os ydych wedi benthyg eitemau, cofiwch wirio'ch cyfrif yn rheolaidd.

• Cofiwch y caiff dirwy o £2.00 ei chodi arnoch bob dydd am eitemau hwyr sydd wedi'u hadalw nad ydynt yn cael eu dychwelyd erbyn y dyddiad dyledus. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â dychwelyd eitem mewn pryd, cysylltwch â Thîm Gwasanaeth Cwsmer ar unwaith os gwelwch yn dda. Gallwch anfon llyfrau drwy'r post atom os oes angen. Edrychwch ar dudalennau gwe'r llyfrgell am fanylion cyswllt a chyfeiriadau post.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â Thîm Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Mwynhewch y gwyliau!