Yn aml, llyfrau yw'r peth cyntaf mae pobl yn meddwl amdanynt wrth feddwl am y llyfrgell, felly ar ddiwrnod 1 o 5 Niwrnod o'r Llyfrgell rydym am wneud yn siŵr eich bod yn gallu dod o hyd i'r llyfrau sydd eu hangen arnoch. 

Defnyddio eich rhestr ddarllen i ddod o hyd i lyfr  

Bydd eich darlithwyr yn aml yn argymell gwerslyfrau a deunyddiau darllen eraill ar gyfer eich modiwlau. Dechreuwch yma pan fyddwch chi eisiau rhagor o wybodaeth am bwnc. Gallwch ddod o hyd i restr ddarllen modiwl ar Canvas; Ewch i'r modiwl perthnasol a dewiswch 'Rhestr Ddarllen' ar ochr chwith y sgrîn. Mae'r rhestr ddarllen hon wedi'i hintegreiddio ag iFind, catalog y llyfrgell, felly byddwch yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd llyfrau ar y silffoedd a dolenni i gael mynediad at adnoddau ar-lein megis e-lyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion.  

  

Screen clipping of the menu from a Canvas course - Home, Modules, Assignments, Reading List and Announcements 

  

Defnyddio iFind i ddod o hyd i lyfr  

Mae eich rhestr ddarllen yn fan gwych i ddechrau, ond bydd disgwyl i chi hefyd ddod o hyd i'ch deunydd darllen eich hun ar gyfer eich aseiniadau. Gallwch ddefnyddio catalog y llyfrgell, iFind i wneud hynny! Gallwch gael mynediad at iFind yn ifind.abertawe.ac.uk neu drwy'r eicon yn Ap FyAbertawe. Gallwch chwilio am deitl penodol neu am lyfrau ar bwnc penodol. Beth am roi cynnig arni nawr? Dilynwch y ddolen i iFind a gwnewch chwiliad am sgiliau astudio. Mae llawer o ddeunydd yn y catalog, ond gallwch gyfyngu'ch canlyniadau gan ddefnyddio'r dewisiadau hidlo ar ochr chwith y dudalen canlyniadau. 

Dod o hyd i lyfr ar silffoedd y llyfrgell  

Unwaith eich bod wedi dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch ar iFind, bydd angen i chi ddod o hyd i'r llyfr yn y llyfrgell. Felly sut rydych chi'n gwneud hynny? Yn gyntaf, bydd angen i chi wirio pa un o Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe sydd â chopïau o'r llyfr! Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth honno ar iFind - cliciwch deitl y llyfr a sgrolio i lawr i ‘Lleoliadau’. Nesaf, bydd angen i chi wybod y rhif galw - byddwch yn dod o hyd i hwn ar iFind hefyd, a bydd yn edrych yn debyg i hynPR6060 O497 H69 2009 

 
 Item details on iFind with the call number circled - PR6060 O497 H69 2009 
  
Mae gan bob un o'n llyfrau rifau galw ar eu meingefnau ac maent yn cael eu rhoi ar y silffoedd mewn trefn. Wrth chwilio am rif galw, dewch o hyd i'r llythrennau yn gyntaf yna chwiliwch am y rhifau. Yn Llyfrgell y Bae a Llyfrgell Parc Dewi Sant, mae popeth ar un llawr - sy'n golygu y gallwch ddilyn y silffoedd o A hyd at Z yn eithaf hawdd. Yn Llyfrgell Parc Singleton, mae llyfrau ar dri llawr gwahanol, ac mewn pum adain wahanol, sy’n gallu bod yn fwy heriol, yn enwedig i fyfyrwyr newydd! Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’ch ffordd, bydd aelod o’r staff yn hapus i'ch rhoi ar y trywydd iawn neu ddod o hyd i'r llyfr ei hun os ydych ar goll yn llwyr. Byddwch yn dod i wybod lle mae eich llyfrau yn fuan iawn!    

Cymorth ychwanegol 

Os hoffech wybod mwy am ddod o hyd i lyfrau, cofrestrwch ar ein cwrs ar-lein, Hanfodion Llyfrgell MyUni, ac ewch i'r adran ar Ddefnyddio'r Llyfrgell.