iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
Mae'r rhestr ddarllen ar gyfer eich modiwl yn ffynhonnell hanfodol o ddeunydd adolygu. Gallwch ddod o hyd i restr ddarllen eich modiwl drwy chwilio iFindReading neu fynd i adran rhestr ddarllen Canvas.
Mae'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth ar Gampws Parc Singleton ar 4 llawr ac mae wedi'i rhannu'n adenydd y Dwyrain a'r Gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr.
Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.
Lleoliadau Llyfrau yn Llyfrgell Parc Singleton
Mae'r rhan fwyaf o'r llyfrau a ddefnyddir wrth astudio Hanes yn cael eu cadw ar Lefel 2 Adain y Gorllewin yn y Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth. Mae rhifau galw'r llyfrau hyn yn amrywio, fel rheol, rhwng C ac F. Mae'r rhan fwyaf o lyfrau ar gyfer Hanes Cymru ar gael yn y Casgliad Cymreig ar lefel 2 Adain y Gorllewin ac mae eu rhifau galw'n cynnwys W/DA. Mae rhai llyfrau am hanes milwrol ar gael yn adran U sydd ar Lefel 2 Adain y Dwyrain. Mae rhai llyfrau am hanes meddygaeth (e.e. llyfrau am y Pla Du etc) ar gael yn adran R ar Lefel 2 Adain y Dwyrain.
| Nod Dosbarth | Penawdau Pwnc | Lleoliad |
| C-F | Hanes | Lefel 2 Adain y Gorllewin |
| D | Hanes - Cyffredinol | Lefel 2 Adain y Gorllewin |
| DA | Hanes - Prydain | Lefel 2 Adain y Gorllewin |
| DB-DR | Hanes - Ewrop | Lefel 2 Adain y Gorllewin |
| DE-DG | Hanes - Groeg a Rhufain | Lefel 2 Adain y Gorllewin |
| E | Hanes - Gogledd America | Lefel 2 Adain y Gorllewin |
| F | Hanes - Cyfandiroedd America | Lefel 2 Adain y Gorllewin |
| HC-HD | Hanes Economaidd | Lefel 2 Adain y Gorllewin |
| J | Gwleidyddiaeth | Lefel 2 Adain y Gorllewin |
| W/DA | Hanes - Cymru | Lefel 2 Adain y Gorllewin |
| U | Hanes Milwrol | Lefel 2 Adain y Gorllewin |
| R | Hanes Meddygaeth | Lefel 2 Adain y Gorllewin |
Cliciwch ar y botwm isod i weld rhestr o'n holl gronfeydd data e-lyfrau. Mireiniwch eich chwiliad ymhellach trwy ddewis Pwnc o'r gwymplen.

LibraryPlus - Cefnogaeth ychwanegol i'ch astudiaethau
Rydym wedi cynllunio'n arbennig nifer o wasanaethau, o'r enw LibraryPlus, sy'n gallu gwneud eich bywyd fel myfyriwr yn hawsach.
Pwy sy'n gallu defnyddio LibraryPlus? Pob myfyriwr, yn enwedig:
Ewch i'r wefan LibraryPlus am fwy o wybodaeth