Mae gan Brifysgol Abertawe nifer o gasgliadau arbennig ar draws ei champysau, Archifau Richard Burton a Llyfrgell Glowyr De Cymru.
Edrychwch ar ein hamrywiaeth o Gasgliadau Arbennig, Llyfrau Prin ac eitemau diwylliannol, y rhan fwyaf ohonynt wedi'u rhestru ar iFind. Porwch wefan y Casgliadau Arbennig am fwy o wybodaeth.
Archifau Richard Burton yw cof corfforaethol a storfa archifau Prifysgol Abertawe ac maent yn dal deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Edrychwch ar eu tudalennau syniadau ymchwil i gael gwybodaeth am eu casgliadau.
Mae'r casgliadau a gedwir yn Llyfrgell Glowyr De Cymru (a leolir ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan) yn archwilio agweddau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol De Cymru ddiwydiannol. Edrychwch ar ein canllaw llyfrgell am fwy o wybodaeth.