iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
Mae Llyfryddiaeth Hanes Prydain ac Iwerddon yn ganllaw i'r gwaith ar hanes Prydain, Iwerddon a'r Prydeinwyr dramor. Mae'n cynnwys llyfrau, erthyglau ac ysgrifau eraill a gyhoeddwyd ar ôl 1901 ac mae'n cael ei diweddaru deirgwaith y flwyddyn.
Bydd y casgliad hwn ar ôl ei gwblhau yn cynnwys 460 o gyfnodolion Prydeinig a gyhoeddwyd rhwng 1681 a’r 1930au. Pynciau dan sylw yn cynnwys llenyddiaeth, athroniaeth, hanes, gwyddoniaeth, celfyddydau cain a’r gwyddorau cymdeithasol.
Hwn yw'r prif lyfryddiaeth ryngddisgyblaethol ar gyfer y Canol Oesoedd (c.400-1500). Mae'n cynnwys manylion dros 300,000 o erthyglau a gyhoeddwyd ers 1967 mewn cyfnodolion, trafodion cynadleddau, casgliadau o draethodau, Festschriften a chatalogau arddangosfeydd. Mae'n cynnwys pob agwedd ar astudiaethau canoloesol.
Mae JSTOR yn cynnwys testun llawn cyfnodolion, fel arfer o'r rhifyn cyntaf hyd at oddeutu 5 mlynedd yn ôl. Ar gyfer rhifynnau mwy diweddar, yn aml darperir dolenni i destun llawn erthyglau ar wefannau allanol. Mae'r pynciau'n cynnwys ecoleg, economeg, addysg, cyllid, hanes, iaith a llenyddiaeth, mathemateg ac ystadegau, athroniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, gwleidyddiaeth ac astudiaethau poblogaeth.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Cliciwch ar y botwm isod i weld rhestr o'n holl gronfeydd data. Mireinio'ch chwiliad ymhellach trwy ddewis pwnc neu fath o'r gwymplen.
Mae'r Llyfrgell yn dal holl draethodau ymchwil Prifysgol Abertawe ar lefel doethuriaeth a rhai meistri. Nid ydym fel arfer yn cadw prosiectau neu draethodau hir y drydedd flwyddyn. Mae'r rhan fwyaf o'n traethodau estynedig yn cael eu cadw mewn storfa dan glo ar Gampws Parc Singleton.
Mae'r traethodau hir at ddefnydd cyfeirio yn unig, felly ni ddylid eu tynnu allan o'r llyfrgell. Gofynnwch wrth y Ddesg Wybodaeth os hoffech edrych ar draethawd ymchwil.
Gallwch chi ddefnyddio ein cronfeydd data i ddod o hyd i draethodau ymchwil a thraethodau hir o'r tu allan i Brifysgol Abertawe.