Skip to Main Content

E-Draethodau Ymchwil & Casgliad Draethawd: Gwybodaeth i fyfyrwyr

This page is also available in English

Cysylltu

Ar gyfer ymholiadau’n ymwneud ag e-draethodau ymchwil cysylltwch â thîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell openaccess@abertawe.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau’n ymwneud a’r ystorfa, cysylltwch ag LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk

Rhestr wirio

Gallwch:

  • greu copi testun cyflawn o’ch traethawd ymchwil  yn barod i eraill ei ddarllen yn syth
  • creu copi wedi ei ail-olygu a fydd ar gael i eraill ei ddarllen yn syth*
  • cyfyngu mynediad dros dro
  • cyfyngu mynediad yn barhaol

Darparwch gopi testun cyflawn o’r traethawd ymchwil llwyddiannus ar fformat PDF i weinyddydd y Coleg. Bydd angen copi i’w gadw arnom hyd yn oed os ydych yn dewis peidio â copi o’r traethawd ymchwil a fydd ar gael i’r cyhoedd.

  • Ystyriwch ofynion eich ariannwr
  • Ystyriaethau hawlfraint* - ydy’r traethawd ymchwil yn cynnwys deunydd trydydd parti y bydd angen sicrhau caniatâd i’w atgynhyrchu? Sicrhewch ganiatâd pan fo’i angen, cadwch gofnodion, gwerthuswch unrhyw risg.
  • Cwblhewch gytundeb yr awdur ar gyflwyno e-draethawd ymchwil.

Hawfraint

Cynnwys deunydd o dan hawlfraint yn eich traethawd ymchwil – sicrhau caniatâd hawlfraint

Mae canllaw llawn ar hawlfraint ar gael yng Nghanllaw’r Llyfrgell ar Hawlfraint.

Cyfeiriwch at y daflen “Sicrhau bod eich e-draethawd yn gyfreithlon” er mwyn cael canllaw ar hawlfraint ac er mwyn rheoli risgiau hawlfraint wrth i chi baratoi’r traethawd ymchwil.

Cynnwys deunydd o dan hawlfraint yn eich traethawd ymchwil

Deunydd o dan hawlfraint trydydd parti

Bydd angen i chi ofyn am ganiatâd i gynnwys unrhyw ddeunydd o dan hawlfraint trydydd parti yn fersiwn electronig eich traethawd sydd ar gael yn gyhoeddus ar-lein. Mewn fersiwn wedi ei argraffu, gellir fel arfer cynnwys darnau byr heb ofyn am ganiatâd, cyn belled â’u bod wedi eu cydnabod yn ddigonol a’ch bod wedi cyfeirio at y deunydd yn unol ag arferion academaidd arferol.

Beth yw deunydd o dan hawlfraint trydydd parti?

  • Unrhyw ddeunydd nad yw’n perthyn i chi neu os ydych chi wedi trosglwyddo’r hawliau i rywun arall, e.e. erthygl mewn cyfnodolyn ble mae’r hawliau wedi eu trosglwyddo gennych o bosib i’r cyhoeddwr.
  • Mae’n cynnwys detholiadau hir o destun, darluniau, addasiadau, ffigyrau, tablau, mapiau, siartiau, ffotograffau a delweddau. Os nad ydych chi’n siŵr, gofynnwch am ganiatâd bob amser.

Mae’n werth gofyn am ganiatâd i gynnwys deunydd o dan hawlfraint yn eich traethawd ymchwil wrth i chi gyflawni eich astudiaethau, yn hytrach na cheisio cysylltu â deiliad hawlfraint pan fyddwch ar fin cwblhau’r gwaith. Mae’r Llyfrgell yn cynnal sesiynau hyfforddi  rheolaidd i fyfyrwyr ôl-radd er  mwyn rhoi cymorth i chi ddeall gofynion hawlfraint yng nghyswllt e-draethodau ymchwil.

Sut i sicrhau caniatâd i gynnwys deunydd trydydd parti yn fersiwn electronig eich traethawd ymchwil
Mae angen gwybod pwy yw deiliad yr hawlfraint a chysylltu â nhw. Gall y deiliad fod yn awdur, cyhoeddwr, darlunydd ac ati. Pan fyddwch yn defnyddio deunydd o ffynonellau sydd wedi eu cyhoeddi, y cam cyntaf yw cysylltu â’r cyhoeddwr. Dylech gynnwys y manylion allweddol canlynol yn eich gohebiaeth:

  • Beth yn union ydych chi eisiau caniatâd i’w wneud? Dylid cynnwys gwybodaeth ar unrhyw rif rhyngwladol ISBN, teitl, rhif tudalen, y darn/detholiad y gofynnir amdano.
  • Eglurwch ble yn union yr hoffech chi ddefnyddio’r deunydd (e.e. traethawd ymchwil ar-lein).
  • Eglurwch pam rydych chi eisiau gwneud hyn.
  • Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt.

Os na fyddwch yn derbyn ateb, dylech gymryd nad oes modd i chi ddefnyddio’r deunydd gan nad ydych wedi derbyn caniatâd. O bryd i’w gilydd, bydd gofyn i chi dalu ffi er mwyn ail-ddefnyddio deunydd. Does dim gorfodaeth arnoch i dalu a gallwch ddewis peidio â chynnwys y deunydd yn fersiwn electronig eich traethawd ymchwil sydd ar gael i’r cyhoedd. 

Beth i’w wneud gyda chaniatâd

  • Nodwch eich bod wedi derbyn caniatâd gan ddeiliad yr hawlfraint yn y man priodol o fewn eich traethawd ymchwil. Ychwanegwch frawddeg debyg i “Cafwyd caniatâd i atgynhyrchu A gan B”. Cadwch gofnod o unrhyw ohebiaeth a dderbyniwch gan ddeiliaid hawlfraint.

Os gwrthodir caniatâd neu os nad oes modd i chi sicrhau hawlfraint ar gyfer yr holl ddeunydd sydd yn eich traethawd ymchwil, ni fydd modd i chi roi copi cyflawn o’r traethawd i’r cyhoedd ar-lein.

Mae modd cyflwyno dwy fersiwn electronig o draethawd ymchwil:

  • Bydd y fersiwn gyflawn, yn cynnwys unrhyw ddeunydd trydydd parti, yn cael ei chadw’n ddiogel mewn ardal reoledig ar y System Gwybodaeth Ymchwil (RIS). Ni fydd y copi hwn ar gael i’r cyhoedd.
  • Fersiwn cynnwys wedi ei ail-olygu: gellir rhyddhau ail fersiwn y traethawd ymchwil wedi ei ail-olygu. Ni fydd y fersiwn hon yn cynnwys unrhyw ddeunydd trydydd parti a bydd modd iddi fod ar gael i’r cyhoedd trwy Cronfa.
  • Gofalwch eich bod yn labelu’r gwahanol fersiynau’n glir gan nodi os mai fersiwn gyflawn neu fersiwn wedi ei hailolygu yw cynnwys y ffeiliau PDF.

Nodwch y bydd o bosib yn angenrheidiol cyfyngu ar fynediad i’r traethawd ymchwil os nad ydych wedi llwyddo i sicrhau caniatâd i gynnwys deunydd gan drydydd parti, yn ogystal â sicrhau gwaharddiad ffurfiol ar fynediad tan i bob erthygl mewn cyfnodolyn gael ei chyhoeddi.

Traethawd ymchwil ysgrifennu creadigol – Canllawiau ar gyfer doethuriaeth Ysgrifennu Creadigol

Sut mae cyflwyno fy nhraethawd ymchwil?

Ar ôl yr arholiad ac ar ôl cwblhau pob cywiriad gofynnol:

Cadwch fersiwn derfynol eich traethawd ar fformat PDF. Enwch y ffeil mewn dull priodol gan gynnwys eich rhif myfyriwr, e.e. 2017davies123456.pdf neu 2017davies123456wedieiailolygu.pdf. Os oes gennych atodiadau sy’n cynnwys deunydd wedi ei gyfyngu, dylid cyflwyno’r rhain fel ffeiliau ar wahân.

Mae Prifysgol Abertawe angen copi i’w gadw ar gyfer yr archif ymchwil hyd yn oed os dewiswch peidio â gadael i’r cyhoedd weld eich traethawd. Byddwn yn creu cofnod i’w gadw.

Bydd gweinyddydd y Coleg yn:

  • Rhoi manylion y traethawd ymchwil ar y system
  • Gwirio eich bod chi a’ch goruchwyliwr wedi cwblhau a llofnodi’r Cytundeb Cyflwyno E-draethawd ymchwil.

Siart llif e-draethodau

Gorchymyn Arianwyr a Rheoli Data Ymchwil

Cydymffurfio â pholisi Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK/UKRI) ar fynediad agored:

  • Mae dogfen UKRI “Conditions of Research Councils Training Grants” Gofyniad Mynediad Agored TGC15  yn datgan bod rhaid i’r sefydliad roi cymorth i fyfyrwyr doethuriaeth sy’n cael eu hariannu gan RCUK i gyhoeddi canlyniadau eu gwaith ymchwil yn ystorfa’r sefydliad cyn gynted â phosibl ar ôl i’r traethawd ymchwil gael ei ddyfarnu. Dylai fersiwn testun cyflawn fod ar gael cyn pen 12 mis ar ôl y dyfarniad.

Cydymffurfio â pholisïau’r Cynghorau Ymchwil unigol:

  • Mae polisïau Cynghorau Ymchwil ar ddata ymchwil yn disgwyl i ddata sydd wedi ei gynhyrchu neu ei gasglu trwy ymchwil sy’n cefnogi canfyddiadau ymchwil wedi eu cyhoeddi (gan gynnwys e-draethodau ymchwil) gael ei gadw a’i wneud ar gael i’r cyhoedd (oni bai bod cyfyngiadau masnachol, moesegol neu gyfreithiol yn berthnasol). Gellir dod o hyd i eglurhad pellach ar ofynion mynediad data EPSRC yma.
  • Cysylltwch â thîm cymorth Data Ymchwil am wybodaeth ynglŷn â rhannu eich data neu gallwch ddarllen y canllaw i reoli data ymchwil yma. Os rhowch chi URL i ni, gallwn gysylltu cofnod eich e-draethawd ymchwil â’r data ymchwil.

Cyhoeddi o draethawd ymchwil

Fel arfer, nid yw cyhoeddwr yn gwrthwynebu i draethawd ymchwil fod ar gael i’r cyhoedd mewn ystorfa sy’n perthyn i sefydliad cyn i gyhoeddiadau sydd wedi eu seilio ar y traethawd ymchwil gael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, awgrymwn y dylech wirio manylion y polisi sy’n manylu ar gyhoeddi ymlaen llaw gyda’r cyhoeddwr unigol. Yn gyffredinol, mae unrhyw lawysgrif sydd wedi ei seilio ar eich gwaith ymchwil yn debygol o fod yn fersiwn dra gwahanol i’r gwaith gwreiddiol.

Mae modd gwneud cais am waharddiad ffurfiol ar fynediad os nad ydych wedi gorffen cyhoeddi o’r traethawd ymchwil neu os oes unrhyw ystyriaethau masnachol yn berthnasol. Dylech wneud y cais trwy Bennaeth y Coleg/Ysgol neu enwebai yn y ffordd arferol. Mae gennych hawl i gyfyngu ar fynediad dros dro i’r fersiwn electronig a dynodi dyddiad diwedd y gwaharddiad ar gytundeb cyflwyno’r awdur.

Rhagor o wybodaeth yma.

Cyfyngu ar fynediad

Os yw’r traethawd ymchwil wedi derbyn nawdd masnachol ac os yw’r myfyriwr wedi llofnodi cytundeb sy’n gwahardd cyhoeddi’r gwaith yn gyhoeddus, boed hynny dros dro neu’n barhaol, dylid nodi hyn ar y cytundeb cyflwyno mynediad agored. Bydd yn rhaid i’r myfyriwr ddarparu copi electronig o’r traethawd ymchwil ond cyfrifoldeb Prifysgol Abertawe yw sicrhau na fydd hwn ar gael yn gyhoeddus yn unol â thelerau’r cytundeb. Mae hefyd yn bosibl cyflwyno ail fersiwn wedi ei hailolygu os yw’r traethawd ymchwil yn cynnwys deunydd sydd â hawlfraint sy’n perthyn i drydydd parti neu ddeunydd o natur sensitif y mae’r awdur yn dymuno peidio ei gynnwys.

Os oes angen gwaharddiad ffurfiol ar fynediad i’r fersiwn papur a’r fersiwn electronig fel ei gilydd, dylai’r myfyriwr nodi ei fwriad mor gynnar â phosibl trwy Bennaeth y Coleg/Ysgol neu enwebai. Dylai’r cais nodi teitl y gwaith a’r rheswm dros osod gwaharddiad ffurfiol.

Er enghraifft:

  •     Cytundeb masnachol
  •     Disgwyl am drwydded patent
  •     Cynnwys hawlfraint sy’n perthyn i drydydd parti lle nad oes modd derbyn caniatâd nac ailolygu
  •     Disgwyl i’r ddogfen gael ei chyhoeddi
  •     Ystyriaethau moesegol, diogelwch cenedlaethol neu ddiogelu data
  •     Rheswm sylweddol arall

Mae traethodau ymchwil yn ddarostyngedig i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) a’r Rheoliadau Amgylcheddol 2004 (EIR).