Mae gan y Llyfrgell gopïau caled o'r rhan fwyaf o draethodau hir Prifysgol Abertawe ar lefel doethuriaeth a rhai lefel meistr.
Ym mlwch chwilio iFind, gallwch chwilio ar sail allweddair ar gyfer eich pwnc a'r geiriau: swansea thesis. Yna gallwch ddefnyddio'r bar Mireinio i gyfyngu'r chwiliad i ystod blynyddoedd neu Golegau penodol. Os oes gennych ddiddordeb penodol mewn traethodau ymchwil diweddar, gallwch newid y fwydlen Didoli yn ôl (Sort By) ar ben y rhestr o ganlyniadau i Dyddiad diweddaraf i hynaf (Date descending) i osod y rhai diweddaraf ar frig y rhestr.
Caiff ychydig o draethodau ymchwil eu gwahardd o ddefnydd cyhoeddus am sawl blwyddyn - mae hyn fel arfer oherwydd bod gan y gwaith botensial masnachol a chan fod y myfyriwr wedi cael caniatâd y Brifysgol i beidio â’i wneud yn gyhoeddus yn syth. Os bydd hyn yn digwydd, bydd nodyn ar gofnod y catalog sy'n rhoi'r dyddiad y caiff y wybodaeth ei rhyddhau. Ni chaiff neb ddarllen y traethawd ymchwil cyn y dyddiad hwnnw.
Cedwir traethodau ymchwil DSc. a D.Litt yn y Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth. Gofynnwch amdanynt wrth Ddesg y Llyfrgell.