Skip to Main Content

Daearyddiaeth: Chwilio am Lenyddiaeth

This page is also available in English

Chwilio Am Ienyddiaeth

Mae chwiliad llenyddiaeth yn chwiliad systematig o'r llenyddiaeth berthnasol sy'n perthyn i bwnc penodol. 

Dyma grynodeb o gynnwys yr adran hon:

  • Sut i greu strategaeth chwilio
  • Penderfynu ble byddwch chi'n chwilio
  • Diffinio eich geiriau allweddol
  • Gwerthuso'ch canlyniadau yn feirniadol

Chwiliadau llenyddiaeth llwyddiannus

Bydd treulio ychydig amser yn meddwl am eich strategaeth chwilio yn gymorth mawr wrth ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich aseiniadau.  Dyma elfennau allweddol strategaeth chwilio dda:

  • Diffinio'ch allweddeiriau
  • Gosod cyfyngiadau (h.y. dyddiad cyhoeddi, iaith)
  • Ble rydych yn bwriadu chwilio? (cronfeydd data, gwefannau etc)
  • Cofnodi eich canlyniadau

Awgrymiadau Chwilio

  • Os cewch chi lawer o ganlyniadau, ceisiwch chwilio ym maes y teitl, yn hytrach na chwilio â phynciau mwy cyffredinol gan y bydd hyn yn lleihau eich canlyniadau ac yn rhoi ffocws iddynt
  • Defnyddiwch "Search within" neu cysylltwch dermau ag AND er mwyn dod â mwy nag un syniad i mewn.
  • Defnyddiwch ddyfyniadau i chwilio am ymadrodd.
  • Defnyddiwch gwtogiad * i ddod o hyd i derfyniadau gwahanol e.e. bydd arfordir* yn dod o hyd i arfordir, arfordiroedd, arfordirol.
  • Os oes mwy nag un term posibl ar gyfer eich pwnc, cysylltwch y geiriau gwahanol ag OR
  • Ceisiwch drefnu eich canlyniadau – os ewch yn ôl dyddiad cewch yr ymchwil ddiweddaraf ar y brig, bydd dyfynnwyd gan yn dod ag ymchwil ddylanwadol i’r brig.

Dyma ychydig o benodau llyfr sy'n gallu eich helpu i ddatblygu'ch strategaeth chwilio:

  • Bell, J., & Waters, S. (2014). Doing your research project: A guide for first-time researchers (6th ed.). Maidenhead: McGraw-Hill Education. (Pennod 5 - Literature searching)
  • Onwuegbuzie, A., & Frels, R. (2016). 7 steps to a comprehensive literature review : A multimodal & cultural approach. London: Sage. (Pennod 5 - Initiating the search)
  • Robson, C., & McCartan, K. (2016). Real world research (4th ed.). Hoboken: Wiley. (Pennod 3 - Developing your ideas)

Mae amrywiaeth eang o wybodaeth efallai yr hoffech ei chynnwys yn eich aseiniadau.  Mae'n cynnwys:

  • Llyfrau - Rydym yn argymell eich bod yn dechrau gyda rhestr ddarllen eich modiwl yn Blackboard i ddod o hyd i destunau allweddol ar gyfer eich pwnc.
  • Erthyglau mewn cyfnodolion - Dechreuwch gyda iFind, erthyglau a mwy neu defnyddiwch gronfa ddata i ddod o hyd i erthyglau mewn cyfnodolion.
  • Llenyddiaeth Lwyd - yn y bôn, popeth nad yw'n cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn, er enghraifft, trafodion cynadleddau, dogfennau'r Llywodraeth, adroddiadau gan sefydliadau.

Mae dewis yr allweddeiriau cywir yn rhan bwysig iawn o'r broses chwilio. Po fwyaf rydych yn darllen am eich pwnc, mwyaf o allweddeiriau a thermau allweddol byddwch yn dod ar eu traws.  Ar ddechrau'ch chwiliad, mae'n bosib mai ychydig yn unig o allweddeiriau fydd gennych. Gyda'r rhain, gallwch gynnal chwiliad cwmpasu (chwiliad eang, cyflym) i gael trosolwg o faint o lenyddiaeth sydd ar gael ar gyfer eich pwnc.  Yn seiliedig ar eich canlyniadau, gallwch fireinio'ch allweddeiriau ac ail-wneud eich chwiliad.

Bydd yn bwysig cyfuno'ch allweddeiriau yn y ffordd gywir gan ddefnyddio gweithredwyr Boolean (AND/OR/NOT).  Rydym wedi creu ffurflen cofnodi chwiliad i'ch helpu i feddwl am allweddeiriau ar gyfer eich chwiliad. 

DS: Bydd rhai o'n cronfeydd data yn cynnwys Penawdau Pwnc/Penawdau Thesawrws hefyd.  Mae defnyddio chwiliadau pennawd pwnc yn ffordd ddatblygedig o chwilio am lenyddiaeth a gall ddarparu set ddefnyddiol a phwrpasol o ganlyniadau.  Bydd gan bob cronfa ddata dudalen cymorth sy'n cynnig rhagor o fanylion.

Mae gwerthuso'ch ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth, a chwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml yw:  Sut rydych yn gwybod bod eich ffynonellau yn:

  • ddibynadwy
  • digon academaidd
  • diduedd

Mae nifer o lyfrau, penodau llyfrau a gwefannau ardderchog syn gallu eich helpu wrth werthuso'ch ffynonellau'n feirniadol.  Dyma ychydig ohonynt:

  • Bell, J., & Waters, S. (2014). Doing your research project: A guide for first-time researchers (6th ed.). Maidenhead: McGraw-Hill Education. (Pennod 6 - The review of the literature)
  • Robson, C., & McCartan, K. (2016). Real world research (4th ed.). Hoboken: Wiley. (Pennod 3 - Developing your ideas)

Methu dod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano?