Mae'r adran hon yn darparu arweiniad i ddod o hyd i erthyglau mewn cyfnodolion a chael gafael ynddynt.
Dyma grynodeb o gynnwys yr adran hon:
Mae'r gronfa ddata hon yn darparu manylion llyfryddiaethol (gan gynnwys crynodebau) ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion, ar amrywiaeth mawr o bynciau, gan gynnwys Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Seicoleg, Cymdeithaseg, Economeg, Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Hiliol, Gwaith Cymdeithasol ac Addysg. Mae'n cynnwys cofnodion mwy na 500 o deitlau cyfnodolion a gyhoeddir mewn 16 gwlad wahanol, gan gynnwys y DU a'r UD.
Mae GreenFILE yn cynnig gwybodaeth hygyrch ond sydd wedi'i hymchwilio'n dda sy'n cwmpasu pob agwedd ar effaith dyn ar yr amgylchedd. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys cynhesu byd-eang, adeiladu gwyrdd, llygredd, amaethyddiaeth gynaliadwy, ynni adnewyddadwy, ailgylchu, a mwy.
Mae'r gronfa ddata hon yn cynnwys dros 3 miliwn o gyfeiriadau llyfryddiaethol at erthyglau mewn cyfnodolion, ynghyd â llyfrau, adolygiadau a detholiad o benodau sy'n dyddio'n ôl i 1951. Mae'n unigryw oherwydd ei bod yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddeunydd rhyngwladol ac yn cynnwys dros 100 o ieithoedd a gwledydd. Caiff mwy na 2,800 o gyfnodolion eu mynegeio'n rheolaidd ac mae tua 7,000 o lyfrau'n cael eu cynnwys bob blwyddyn.
Erthyglau o gyfnodolion gan y cyhoeddwr Elsevier. Mae chwiliad uwch yn cynnig yr opsiwn i chi ddewis cyfnodolion tanysgrifedig er mwyn i chi ganfod canlyniadau sydd ar gael i chi ar unwaith yn unig - defnyddiol ar gyfer dechrau ar bwnc.
Mae Scopus yn gronfa ddata crynoadau a chyfeiriadau o lenyddiaeth ymchwil a ffynonellau we ansoddol ym meysydd Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddorau Ffisegol a Gwyddorau Bywyd. Mae’r gronfa ddata hefyd yn rhoi gwybodaeth ar ddadansoddi cyfeiriadau ar gyfer erthyglau, awduron a metrigau cyfnodolion.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Mae Hanfodion Llyfrgell MyUni yn cynnwys adran ar ymchwilio. Dilyna’r ddolen isod i ddysgu sut i gynllunio strategaeth chwilio a chynnal dy chwiliad. (Bydd angen i ti fewngofnodi i Canvas i gael y ddolen.)
Dilynwch y ddolen i ymgofrestru ar gyfer Hanfodion Llyfrgell MyUni os nad ydych chi wedi cael mynediad at y cwrs o'r blaen.
Mae Google Scholar yn chwilio am ddeunyddiau ysgolheigaidd. Fodd bynnag, nid yw’n glir beth sy’n cael ei fynegeio na sut felly dylid defnyddio Google Scholar ar y cyd â chronfeydd academaidd eraill am ganlyniadau mwy dibynadwy. Mae’n bwysig nodi bod Google Scholar yn cysylltu â pheth cynnwys tanysgrifenedig ar y campws. Gallwch alluogi’r nodwedd hon ar eich dyfais drwy fynd i Google Menu, Settings, Library links ac yna dewis Prifysgol Abertawe o’r dolenni mynediad ar gyfer y rhestr.
Mae Semantic Scholar yn ddeallusrwydd artiffisial wedi’i seilio ar beiriant chwilio ar gyfer cyhoeddiadau academaidd, gan gynnwys ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid. Mae’n ddefnyddiol i’w ddefnyddio ochr yn ochr â Google Scholar oherwydd bod y canlyniadau mae’n gallu eu cael yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i echdynnu ystyr o lenyddiaeth ymchwil yn amrywio. I ddechrau, ewch i semanticscholar.org a chwilio am bapur, awdur, pwnc neu air allweddol. Gallwch hidlo yn ôl maes, ystod o ddyddiadau, cynhadledd a mwy i fireinio’r canlyniadau chwilio yn ogystal â’u trefnu yn ôl perthnasedd neu ddiweddaredd.
Mynediad i gynnwys testun llawn, Mynediad Agored, am ddim ac yn gyfreithlon.
Gallwch ddefnyddio bron pob un o'n hadnoddau electronig oddi ar y campws gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair ar gyfer y brifysgol. Fodd bynnag, weithiau gall fod yn anodd dod o hyd i'r llwybr cywir i fewngofnodi. Y peth gorau i'w wneud yw chwilio am y cyfnodolyn neu'r gronfa ddata yn iFind a dilyn y ddolen yno. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys cipluniau sgrîn sy'n dangos sut mae rhai o'r systemau allweddol yn ymddangos oddi ar y campws.