Skip to Main Content

Daearyddiaeth: Cyfeirnodi

This page is also available in English

Cyfeirnodi

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad i’ch helpu i gyfeirnodi. Mae gwirio eich gwaith yn erbyn canllaw yn ffordd dda i wirio bod eich cyfeiriadau’n gywir. 

Mae cyfeiriadu’n rhan o fywyd academaidd ac mae’n cael ei ddefnyddio i roi diolch i eraill, i osgoi llên-ladrad a dangos yr hyn rydych wedi’i ddarllen.

Arddull cyfeirnodi APA

Mae APA yn un o'r arddulliau cyfeirnodi sy'n cael eu cymeradwyo gan y brifysgol. Mae'n defnyddio'r awdur a'r dyddiad yn yr erthygl a rhestr yn nhrefn yr wyddor ar y diwedd. Rydym yn cynnig canllaw cryno a chanllaw llawn i'ch helpu i ddefnyddio'r system gyfeirnodi hon.

Meddalwedd rheoli cyfeiriadau

Os yw cyfeirnodi'ch achosi anawsterau i chi, efallai yr hoffech ystyried defnyddio meddalwedd rheoli cyfeiriadau megis EndNote.

Mae EndNote yn feddalwedd sy'n eich helpu i storio'ch cyfeiriadau a'u fformatio yn Word. Gallwch chi lawrlwytho'r meddalwedd i'w defnyddio tra'ch bod chi'n fyfyriwr neu mae'r fersiwn ar-lein ar gael o unrhyw le. Mae gan y ferwiwwn meddalwedd fwy o nodweddion ac nid yw'n dibynnu ar gysylltiad rhyngrwyd da.

Gallwch roi cynnig ar weithio drwy ein llyfr gwaith EndNote i'ch helpu i ddechrau defnyddio'r meddalwedd. Mae'r ddolen isod yn rhoi mynediad i'r llyfr gwaith EndNote.

EndNote

Mendeley

Mae Mendeley yn eich galluogi i gasglu, rheoli a defnyddio cyfeiriadau rydych yn eu canfod yn eich gwaith ymchwil.  Gellir ei ddefnyddio gyda Word i ychwanegu dyfyniadau a llunio rhestr gyfeirio mewn dogfen. Mae elfen gwe i Mendeley y gellir ei defnyddio gydag unrhyw borwr y we; serch hynny bydd angen i chi ddefnyddio’r elfen bwrdd gwaith i ddefnyddio’r Citation Plugin gyda Word. Mendeley yn rhad ac am ddim. Bydd Mendeley yn gwneud y canlynol:

  • Rhannu cyfeiriadau gyda defnyddwyr Mendeley eraill
  • Storio testun PDF llawn yn eich llyfrgell ac yn eich galluogi i wneud anodiadau
  • Creu llyfryddiaeth a nodi wrth i chi ysgrifennu (rhaid cael ychwanegiad am ddim – nid yw’n cyd-fynd â Word 365)

I gael gwybod mwy gweler y canllaw Mendeley.

Zotero

Ategyn porwr ffynhonnell agored am ddim yw Zotero.

Llwyddiant Academaidd: sgiliau dysgu, sgiliau oes

Hanfodion Llyfrgell MyUni - Cyfeirnodi

Dilynwch y ddolen i ymgofrestru ar gyfer Hanfodion Llyfrgell MyUni os nad ydych chi wedi cael mynediad at y cwrs o'r blaen.