Gallwch ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am lyfrau ac e-lyfrau. Mae iFind yn gweithio fel peiriant chwilio ac yn cymharu'ch termau chwilio â'r eitemau sydd ar gael i chi drwy'r llyfrgell.
Dyma'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn yr adran hon:
Os na welwch yr hyn rydych yn chwilio amdano, cliciwch ar y tab Cysylltu â ni i gysylltu â'r tîm.
![]() |
Mae'r llyfrgell yn rhoi mynediad i nifer o e-lyfrau ac mae ein casgliad yn tyfu. Gallwch chwilio am e-lyfrau yn iFind, ynghyd â'r copïau argraffedig sydd ar gael gennym. Rydym wedi cynhyrchu canllaw i e-lyfrau i'ch cynorthwyo wrth ddefnyddio ein casgliadau o e-lyfrau. |
Cedwir llyfrau Daearyddiaeth yn ardal G ar Lefel 2 y Gorllewin - un llawr i lawr o'r fynedfa. Mae rhai llyfrau am ddaeareg a newid yn yr hinsawdd ar gael ar Lefel 2 y Dwyrain hefyd. Mae'r cynllun llawr isod yn dangos ble gallwch ddod o hyd i lyfrau ar ein silffoedd.
Os ydych yn chwilio am lyfr penodol, bydd angen i chi ddod o hyd i'w rif galw yng nghatalog y llyfrgell, oherwydd bod llawer iawn o silffoedd yn y llyfrgell. Gofynnwch i'r Ddesg Wybodaeth ar lefel 3 os oes angen cymorth arnoch.
Bydd iFind yn eich helpu i ddod o hyd i lyfrau, gwirio’ch cyfrif a dod o hyd i erthyglau ar bwnc. Os oes angen cymorth arnoch, bydd y dolenni isod yn mynd â chi i sesiynau tiwtorial ar Youtube a chanllaw y gallwch ei argraffu.
Bydd y cwrs byr canlynol yn esbonio sut i ddod o hyd i lyfrau yn y llyfrgell. Dylai gymryd tua 10 munud yn unig i'w gwblhau. Cliciwch ar y ddelwedd isod i'w lansio mewn ffenestr newydd.