Defnyddiwch iFind neu gronfeydd data pynciau arbenigol i chwilio drwy gannoedd o gyfnodolion ar-lein gwahanol i ganfod erthyglau ar bwnc penodol. Mae’r cronfeydd data isod yn arbennig o dda ar gyfer myfyrwyr Addysg ac Astudiaethau Plentyndod.
Mae’r Llyfrgell yn cadw holl draethodau hir Prifysgol Abertawe ar lefel ddoethuriaeth a rhai enghreifftiau meistr hefyd. Nid ydym fel arfer yn cadw prosiectau na thraethodau trydedd flwyddyn. Cedwir y rhan fwyaf o’n traethodau hir ar glo ar Gampws Parc Singleton.
Ceir gwybodaeth am yr holl draethodau ymchwil a dderbynnir gan y llyfrgell yn iFind, catalog y llyfrgell.
Ym mlwch chwilio iFind, gallwch chwilio ar sail allweddair ar gyfer eich pwnc a'r geiriau: swansea thesis. Yna gallwch ddefnyddio'r bar Mireinio i gyfyngu'r chwiliad i ystod blynyddoedd neu Golegau penodol. Os oes gennych ddiddordeb penodol mewn traethodau ymchwil diweddar, gallwch newid y fwydlen Didoli yn ôl (Sort By) ar ben y rhestr o ganlyniadau i Dyddiad diweddaraf i hynaf (Date descending) i osod y rhai diweddaraf ar frig y rhestr.
I gyfeirio atynt yn unig mae traethodau hir ac ni ddylid eu cymryd allan o’r llyfrgell.
Gofynnwch wrth y Ddesg Wybodaeth os hoffech ddarllen y traethawd hir.
iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
ProQuest Dissertations & Theses Global yw casgliad mwyaf cynhwysfawr y byd o draethodau hir a thraethodau ymchwil o bob cwr o’r byd, yn dyddio o 1743 hyd at heddiw. Mae’n cynnig mynediad testun llawn i waith graddedigion a ychwanegwyd ar ôl 1997, a mynediad testun llawn i ddetholiad o waith raddedigion a ychwanegwyd cyn 1997. Mae’n cynnwys nifer sylweddol o draethodau hir a thraethodau ymchwil rhyngwladol newydd ar ffurf dyfyniadau a thestun llawn.
Mae EThOS wedi’i greu i gynnig un pwynt mynediad i draethodau ymchwil y DU ac yn chwarae rôl arwyddocaol wrth arddangos ymchwil y DU i’r byd. Mae gan EThOS, a gynhelir gan y Lyfrgell Brydeinig, fwy na 100 o brifysgolion y DU ynghlwm yn y prosiect. Gall gynnig ystod eang iawn o deitlau fel lawrlwythiadau testun llawn. Os bydd eitem rydych ei hangen eisoes yn EThOS yna mae ar gael i’w lawrlwytho i’ch bwrdd gwaith ar unwaith am ddim; os nad ydyw, gallwch brynu copi wedi’i sganio oddi wrth EThOS.