Croeso i'r cwrs ar-lein byr hwn a fydd yn rhedeg dros y pum niwrnod nesaf.  Byddwn yn edrych ar y 4 arddull o gyfeirnodi sy’n cael eu ddefnyddio ym Mhrifysgol Abertawe a phob dydd byddwn yn ymdrin a’r elfennau sylfaenol i'ch helpu i ddechrau gyfeirnodi’n gywir.

Gofynnwch i'ch Coleg os nad ydych yn siwr pa arddull o gyfeirnodi i'w ddefnyddio, yn gyffredinol dyma’r arddulliau sy’n cael eu ddefnyddio:

  • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau – MHRA neu APA 6ed arg.
  • Coleg Peirianneg – Vancouver
  • Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd - APA 6ed arg.
  • Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton – Oscola
  • Yr Ysgol Feddygaeth – Vancouver neu APA 6ed arg.
  • Yr Ysgol Reolaeth – APA 6ed arg.

Un cwestiwn a ofynnir i ni yn aml yw pam bod cyfeirnodi cywir mor bwysig mewn aseiniadau? Mae cyfeirnodi’n rhan bwysig iawn o’ch cwrs academaidd. Os ydych yn defnyddio gwaith rhywun arall heb gydnabod hynny, rydych chi’n cyflawni llên-ladrad. Bydd cyfeirnodi’n gywir yn cydnabod gwaith yr awdur yn llawn, ac ar ben hynny’n dangos i’ch darlithydd eich bod wedi darllen ffynonellau academaidd ac wedi darllen yn helaeth.  Os oes angen cyngor ychwanegol ar sut i osgoi llen-lladrad cwbwlhewch y tiwtorial ar-lein Llwyddiant academaidd: Sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd ar gael trwy Blackboard.

Yr hyn sy’n allweddol er mwyn cyfeirnodi’n dda mewn aseiniad yw defnyddio ffynonellau dibynadwy da bob amser. Mae dod o hyd i ddeunyddiau ar y rhyngrwyd yn hawdd; ond mae dod o hyd i ddeunyddiau dibynadwy da ar y rhyngrwyd ychydig yn fwy heriol.

Argymhellwn eich bod bob amser yn dechrau drwy wirio’r rhestr ddarllen a ddarparwyd gan eich darlithydd ar Blackboard. Edrychwch ar ochr chwith y sgrîn yn eich modiwl Blackboard (e.e. SHN126), a gwelwch ddolen i restr ddarllen ryngweithiol.

Bydd pob adnodd yn y rhestr ddarllen yn caniatáu i chi glicio arno, gan eich cyfeirio at iFind, catalog y llyfrgell. Bydd catalog y llyfrgell yn rhoi digon o wybodaeth lyfryddiaethol i chi er mwyn gallu cyfeirnodi’r adnodd y mae ei angen arnoch.

Oes gennych chi gwestiwn? Holwch gan ddefnyddio’r adran sylwadau yn y blog neu drwy Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #su5dor. Yfory byddwn yn edrych ar arddull APA 6ed arg. o gyfeirnodi.