Rydyn ni’n defnyddio adnoddau a chymorth ar-lein yn fwy ar hyn o bryd. Ydych chi wedi darganfod iView Learning? Mae'r platfform hwn yn cynnig canllawiau i amrywiaeth gynhwysfawr o offer technoleg gynorthwyol a meddalwedd cynhyrchiant. Mae gan yr adnodd hon lyfrgell o gynnwys sy'n ehangu, ac mae'n cynnig cyfres o fideo-diwtorialau a chanllawiau ar ffurf PDF ar gyfer fersiynau amrywiol o Windows a Mac.
Gallwch chi ddod o hyd i ganllawiau ar gyfer Microsoft Office, G-Suite for Education ac Apple. Mae tiwtorialau Microsoft Office yn cynnwys Word, Excel a PowerPoint ac maent yn cynnwys popeth o gopïo a gludo testun i ddefnyddio arddulliau fformatio a phenawdau yn Word (mae hyn yn ddefnyddiol iawn wrth weithio ar ddogfennau hir megis traethawd estynedig!). Defnyddiwch y tiwtorialau G-Suite i gael y mwyaf o Google Docs, Sheets a Slides. Gallwch chi hyd yn oed dderbyn cymorth trwy ddefnyddio’r dechnoleg gynorthwyol sydd ar gael ar gyfrifiaduron y campws er mwyn helpu eich lefelau cynhyrchiant.
Cofrestrwch ar gyfer eich tanysgrifiad am ddim nawr!