Gwella eich dysgu, eich addysgu a'ch ymchwil drwy ein Gwasanaethau Llyfrgell.

Bydd y Llyfrgelloedd a Chasgliadau'n cynnal diwrnod datblygiad proffesiynol i wella sgiliau dysgu, addysgu ac ymchwil cydweithwyr academaidd (ddydd Iau 25 Gorffennaf).

Bydd y diwrnod yn cynnwys 6 sgwrs ddiddorol a fydd yn cynnwys ystod o bynciau cyfredol a pherthnasol, a fydd yn gwella eich gwybodaeth a'ch sgiliau. Gan gynnwys sesiwn ddiddorol gan ein prif siaradwr, Claudia Paicu (Hyfforddwr SAGE).

Lleoliad y digwyddiad: Ystafell 402, Llyfrgell Parc Singleton ac ar Zoom.

Amserlen:

10:00 – Cyflwyniad i offer ymchwil AI.

10:30 – Cyflwyniad i adnoddau fideo gan y Llyfrgell.

11:00 – Egwyl.

11:15 – iFind Reading.

12:00 – EndNote.

13-00 –Egwyl ginio.

14:00 – Gwreiddio a hysbysebu dosbarthiadau'r Llyfrgell i fyfyrwyr (sgiliau llythrennedd academaidd a gwybodaeth).

14:45 – Egwyl.

15:00 – Cronfa Ddata Dulliau Ymchwil SAGE.

16:00 – Taith ddewisol o ardaloedd newydd Llyfrgell Parc Singleton. 

I gael mwy o wybodaeth am gynnwys pob sesiwn, ewch i'n canllaw manwl i gael mwy o wybodaeth. 

Rydym yn annog ein cydweithwyr i ddod i'r diwrnod neu ran ohono, a gallwch gofrestru eich presenoldeb yma.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael drwy gydol y dydd, ac rydym yn gobeithio eich gweld chi yno er mwyn elwa o'r datblygiad proffesiynol hwn. 

Os oes gennych gwestiynau neu ymholiadau am y diwrnod, e-bostiwch Naomi Prady.