Os ydych chi wedi clywed am Lyfrau Byw ond heb fod yn siŵr beth ydyn nhw, mae podlediad diweddaraf Blas ar Ddysgu ac Addysgu i chi! Mae Mandy Jack yn siarad â rhai o’r bobl a fu’n rhan o ddigwyddiad diwethaf Llyfrau Byw ym mis Tachwedd 2020: trefnydd y digwyddiad, Philippa Price – Llyfrgellydd Pwnc; Mohsen Elbeltagi – Caplan Mwslimaidd @BywydCampws; Theresa Ogbekhiulu – Uwch-reolwr Prosiect ar gyfer Cydraddoldeb Hil, a Yr Athro Martin Stringer – Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg. Mae Dr Gareth Noble, Athro Cysylltiol a Chyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn rhoi rhagflas ar ei lyfr i ni a pham roedd yn awyddus i fod yn rhan o’r digwyddiad eleni.
Gallwch gofrestru nawr! Caiff ein digwyddiad Llyfrau Byw ei gynnal ddydd Mercher 23 Mawrth rhwng 13.00 a 15.00. Llenwch y ffurflen gofrestru i roi gwybod i ni â phwy hoffech chi siarad a phryd byddwch chi ar gael.
Blas ar ddysgu ac addysgu gyda SALT - Lansiwyd y podlediad ar Orffennaf 27ain gyda phennod newydd ar ddydd Mawrth olaf pob mis. Gyda phenodau bonws yn ystod y mis pan fydd datblygiadau amserol a chyffrous yn codi. Ym mhob pennod, rydym yn chwilio am fwyd i feddwl sy'n gwneud newid yn llawer mwy blasus. Strategaethau dysgu ac addysgu, amgylcheddau dysgu, addysgeg gynhwysol, technoleg addysgol, arloesi ac yn bwysicaf oll gwneud cysylltiadau.