"Gweithio mewn hygyrchedd yw un o'r swyddi mwyaf buddiol a diddorol y gallech ei ddymuno. Rwy'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd" – Neil Milliken, Arweinydd Hygyrchedd gydag ATOS.
Mae'n GAAD – Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang 2023! Diwrnod i annog pobl i siarad, meddwl a dysgu mwy am hygyrchedd a chynhwysiant, a'r mwy na biliwn o bobl ag anableddau/namau.
Fel rhan o Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe yn nodi GAAD, dyma gyfle da i gyflwyno hanes Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe (SUTC). Yn ystod blwyddyn Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe yn 2020 fe ymchwiliodd cyn-aelod o dîm SUTC, Alison Sandy, i lyfrau archif SUTC ac Archifau Richard Burton, gan wau hanes SUTC gyda'i gilydd. Canlyniad hyn yw’r traethawd yn y ddolen isod, 'Hanes Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe’.
Beth mae'r Ganolfan Drawsgrifio yn ei wneud?
Yn SUTC, rydym yn cynhyrchu adnoddau dysgu hygyrch ar gyfer myfyrwyr sydd ag anableddau print ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r term 'anabledd print' yn cwmpasu anabledd dysgu, corfforol neu weledol sy'n rhwystro person rhag darllen print confensiynol. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan sefydliadau addysg uwch ddyletswydd gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol, sy'n cynnwys darparu fformatau amgen, hygyrch. Yn ddiweddar, gofynnwyd i ni ysgrifennu 'Datganiad Cenhadaeth' sy'n adlewyrchu nod ein gwasanaeth:
“Ein cenhadaeth yw cefnogi a galluogi myfyrwyr ag anabledd darllen print i wneud y gorau o'u potensial academaidd drwy gael gwared ar rwystrau a darparu adnoddau hygyrch."
Hanes Byr y Ganolfan Drawsgrifio
Agorodd SUTC, a elwid yn wreiddiol yn Ganolfan Recordio'r Deillion, yn swyddogol ar 2il o Dachwedd 1995 yn Anecs Taliesin, ond mae cefnogaeth i fyfyrwyr â nam ar eu golwg ym Mhrifysgol Abertawe yn dyddio'n ôl llawer pellach na hyn, fel y dengys y traethawd yn y ddolen isod.
Lleolwyd ffurf gynharaf y gwasanaeth yn yr 1970au yng ngwaelod yr Adeilad Peirianneg. Byddai myfyrwyr a staff yn rhoi yn wirfoddol o’u hamser i recordio llyfrau ac erthyglau ar dâp; gweithgaredd a barhaodd yn y Ganolfan am ddegawdau gyda'n gwirfoddolwyr cymunedol (neu 'Ddarllenwyr' fel y’u gelwid) yn recordio am awr yr un bob wythnos. Parhaodd ymrwymiad y Brifysgol i gefnogi myfyrwyr VI a chyda hyn datblygodd y gwasanaeth. Fel y cofnodir yn Adroddiad Blynyddol y Brifysgol 1993 gan y Prifathro, yr Athro Brian Clarkson: "Erbyn hyn mae gan Abertawe fwy o fyfyrwyr o'r fath [myfyrwyr â nam ar eu golwg] nag unrhyw sefydliad Cymreig arall, gan fod ymhlith y chwe sefydliad gorau yn y DU o ran ei darpariaeth yn y maes hwn." Ac mae hyn yn dal i daro deuddeg hyd heddiw: Prifysgol Abertawe yw'r unig brifysgol yng Nghymru sydd â Chanolfan Drawsgrifio, ac mae'n un o saith prifysgol yn unig yn y DU sydd â gwasanaeth o'r fath. Rydym wedi sefydlu cysylltiadau cryf â'r RNC (Coleg Cenedlaethol Brenhinol y Deillion) yn Henffordd a Choleg Newydd Caerwrangon, yr RNIB a sefydliadau ac unigolion eraill ar draws y sector.
Yn 2004, symudodd y gwasanaeth i adeilad pwrpasol Amy Dillwyn, lle y gallwch ddod o hyd i ni heddiw, ac yn 2009 cafodd ei ailenwi'n 'Ganolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe'. Yn 2014, mewn datblygiad pwysig ar gyfer ehangu mynediad, newidiodd gwasanaeth SUTC i fod yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ag anabledd print wedi'i dystio'n feddygol. Ymlaen â ni i 2023 ac mae'r tîm yn cefnogi tua 20 o fyfyrwyr sy’n astudio amrywiaeth o bynciau a sydd arnynt angen amrywiaeth o fformatau hygyrch – rydym wedi eu cefnogi rhai ohonynt o lefel Israddedig i lefel PhD!
I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen we: https://www.swansea.ac.uk/cy/llyfrgelloedd/cymorth-llyfrgell-estynedig/canolfan-drawsgrifio/
Cysylltwch â ni ar braille@swansea.ac.uk, dilynwch ni ar Twitter: @SUTranscription, a gallwch ddod o hyd i ni yn Adeilad Amy Dillwyn (rhif 15 ar fap Campws Parc Singleton).
[O'r chwith i'r dde: Tina Webber (Rheolwr y Ganolfan Drawsgrifio), Angharad Brown, Naomi Steele a Sofie O'Shea (Cydlynwyr Trawsgrifio).]