Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022 yw "Chwalu'r Rhagfarn". I ymuno yn y dathlu, yn Llyfrgell Parc Singleton, rydym wedi arddangos gwaith gan awduron benywaidd sydd wedi ceisio goresgyn rhagfarn a gwahaniaethu yn eu gwaith. Mae hyn yn cynnwys casgliadau barddoniaeth gan yr awduron arobryn, Joelle Taylor, Gwyneth Lewis, Gillian Clarke a Hollie McNish. Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys casgliadau o straeon byrion gan Alice Walker, Fflur Dafydd a Dorothy Edwards. Mae hefyd yn amlygu gwaith gan yr awdur a anwyd yn y Rhondda, Rachel Trezise, Kate Bosse-Griffiths, yr Eifftolegydd a fu'n aelod o Adran y Clasuron ac Eifftoleg ym Mhrifysgol Abertawe, a'r awdur Margaret Cavendish o'r ail ganrif ar bymtheg a oedd yn cael ei hadnabod fel "Mad Madge".
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Hapus!
03/08/2022
Bernie Williams
No Subjects
No Tags