Mae’r 11eg Mis Hanes Anabledd y Deyrnas Unedig yn cael ei gynnal o 18fed Tachwedd tan 18fed Rhagfyr.
Mae ymgyrch eleni yn canolbwyntio ar hygyrchedd, ac mae’n ystyried faint o gynnydd a brofwyd a faint sydd ar ôl i’w gyflawni.
Mae cydraddoldeb o ran cael mynediad at yr amgylchedd ffisegol a’r amgylchedd gwybodaeth yn rhywbeth y mae pobl anabl a’u cynghreiriaid wedi ymgyrchu drosto a chydnabyddir hyn fel hawl ddynol sylfaenol.
Mae hygyrchedd cyffredinol yn sicrhau cyfranogiad, beth bynnag yw’r nam.
Mae’r Brifysgol a’r Llyfrgell yn ymdrechu’n barhaus i ddefnyddio adnoddau ffisegol, synhwyraidd a thechnegol er mwyn gwella hygyrchedd cyffredinol.
Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ynghylch y mesurau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’r Llyfrgell yn hygyrch i bawb ar y dudalen Gwasanaethau Cynhwysol y Llyfrgell.
Rydyn ni hefyd wedi llunio rhestr ddarllen sy’n tynnu sylw at adnoddau yn ein Llyfrgell sy’n ymwneud ag Anabledd. Mae’r rhain yn cynnwys atgofion a hunangofiannau, ffuglen a hanes anabledd, cyfnodolion a llyfrau am hawliau anabledd. Os oes gennych chi awgrymiadau ynghylch eitemau yn ein casgliadau y gellir eu hychwanegu at y rhestr hon, e-bostiwch ni yn: