Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi lansiad Teclyn ChwilioMynediad Agored SciFree, a ddyluniwyd i symleiddio mynediad at gytundebau cyhoeddi mynediad agored ar gyfer ymchwilwyr. Mae'r teclyn arloesol hwn yn galluogi staff academaidd a myfyrwyr i adnabod yn gyflym y cytundebau cyhoeddi mynediad agored sydd ar gael drwy gytundebau ‘darllen a chyhoeddi’ Prifysgol Abertawe gyda phrif gyhoeddwyr. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni chynhyrchir anfoneb ac nid oes rhaid ceisio caniatâd ymlaen llaw ar gyfer ariannu'r Taliad Prosesu Erthyglau (APC) yn uniongyrchol.
Mae'r teclyn SciFree yn cefnogi ymrwymiad parhaus Prifysgol Abertawe i hyrwyddo ymchwil agored, cynyddu gwelededd cynnyrch academaidd, a lleihau rhwystrau i gyhoeddi. Drwy symleiddio'r broses, mae'r teclyn yn galluogi ein ymchwilwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am ble i gyhoeddi eu gwaith yn agored. Mae'r teclyn wedi'i addasu i adlewyrchu ein cytundebau cyhoeddwyr. Chwiliwch gan ddefnyddio enw'r cyfnodolyn, ISSN neu bwnc.
Wrth fynd ati i gyhoeddi, dewiswch drwydded CC-BY i gwrdd â'n ffafriaeth trwyddedi rhagosodedig. Hefyd, nodwch unrhyw gyllidwyr yn yr adran cydnabyddiadau a chynhwyswch ddatganiad mynediad at ddata hyd yn oed pan nad oes unrhyw ddata ar gael.
Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi lansiad Teclyn Chwilio Mynediad Agored SciFree, a ddyluniwyd i symleiddio mynediad at gytundebau cyhoeddi mynediad agored ar gyfer ymchwilwyr. Mae'r teclyn arloesol hwn yn galluogi staff academaidd a myfyrwyr i adnabod yn gyflym y cytundebau cyhoeddi mynediad agored sydd ar gael drwy gytundebau ‘darllen a chyhoeddi’ Prifysgol Abertawe gyda phrif gyhoeddwyr. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni chynhyrchir anfoneb ac nid oes rhaid ceisio caniatâd ymlaen llaw ar gyfer ariannu'r Taliad Prosesu Erthyglau (APC) yn uniongyrchol.
Mae'r teclyn SciFree yn cefnogi ymrwymiad parhaus Prifysgol Abertawe i hyrwyddo ymchwil agored, cynyddu gwelededd cynnyrch academaidd, a lleihau rhwystrau i gyhoeddi. Drwy symleiddio'r broses, mae'r teclyn yn galluogi ein ymchwilwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am ble i gyhoeddi eu gwaith yn agored. Mae'r teclyn wedi'i addasu i adlewyrchu ein cytundebau cyhoeddwyr. Chwiliwch gan ddefnyddio enw'r cyfnodolyn, ISSN neu bwnc.
Wrth fynd ati i gyhoeddi, dewiswch drwydded CC-BY i gwrdd â'n ffafriaeth trwyddedi rhagosodedig. Hefyd, nodwch unrhyw gyllidwyr yn yr adran cydnabyddiadau a chynhwyswch ddatganiad mynediad at ddata hyd yn oed pan nad oes unrhyw ddata ar gael.
Am fwy o wybodaeth neu i archwilio'r teclyn, ewch i https://search.scifree.se/swansea
Cysylltiad:
Cymorth Ymchwil Llyfrgell
Prifysgol Abertawe
openaccess@abertawe.ac.uk / 01792 604567