Croeso i 2il ddiwrnod #SU5dot!
Nod heddiw yw dysgu sut i wneud cysylltiadau a dechrau sgyrsiau ar Twitter.
Rydych chi eisoes wedi anfon eich trydariadau cyntaf, gan greu cynnwys sy’n ennyn diddordeb eich dilynwyr posib. Ochr arall Twitter, wrth gwrs, yw’r llif o wybodaeth a ddaw i chi gan y bobl rydych chi’n eu dilyn. Wrth i chi ddilyn pobl, mae’n debygol y byddant yn edrych ar eich proffil ac yn penderfynu eich dilyn chi hefyd (a dyna pam oedd creu proffil gyda thrydaru diddorol yn gyntaf mor bwysig!).
Un o nodweddion allweddol Twitter yw, yn wahanol i lwyfannau megis Facebook neu LinkedIn, nid yw dilyn rhywun arall o reidrwydd yn ddwyochrog – efallai na fydd y bobl rydych chi’n eu dilyn yn eich dilyn chi o reidrwydd (er gallent, wrth gwrs!). Mae gan rai pobl nifer sy’n fwy neu lai’n cyfateb o ran dilynwyr a’r rhai maent yn eu dilyn; mae eraill yn dilyn llawer o bobl ond nid ydynt yn trydaru llawer eu hunain, felly does dim llawer o ddilynwyr ganddynt; ac mae gan rai ‘Trydarwyr’, fel arfer pobl enwog neu adnabyddus neu sefydliadau, nifer helaeth o ddilynwyr gan eu bod yn trydaru yn aml iawn ond nid ydynt yn dilyn llawer o bobl, gan eu bod yn defnyddio Twitter yn fwy fel cyfrwng darlledu i ledaenu eu neges.
Fel unigolyn proffesiynol, yn fwy na thebyg byddwch yn cael y budd mwyaf yn y lle cyntaf drwy gymryd opsiwn un, gydag oddeutu’r un nifer o ddilynwyr â’r nifer o bobl rydych chi’n eu dilyn. Mae Twitter ar ei orau pan fydd deialog, ac ni fydd hyn yn digwydd os mai dim ond chi sy’n siarad, neu os nad oes gennych chi rywun i siarad â nhw! Mae hyn yn wir hyd yn oed i’r rhai hynny sy’n trydaru’n swyddogol ar ran eu hadran neu eu grŵp ymchwil. Er efallai y bydd ganddynt fwy o ddilynwyr na phobl maent yn eu dilyn, mae o hyd yn ddefnyddiol i ddilyn rhai pobl, gwasanaethu neu sefydliadu er mwyn i chi gael gwybodaeth ddefnyddiol i’w throsglwyddo, yn ogystal â hyrwyddo eich diddordebau chi. A bydd dilyn pobl yn rhoi syniad i chi o sut i fynd ati pan fyddwch chi’n trydaru eich hun.
Mae e lan i chi faint o bobl rydych chi’n eu dilyn, er efallai bod 100 yn nifer dda i anelu ati (ond nid pob un heddiw!), i sicrhau llif defnyddiol o gynnwys. Meddyliwch am ba fath o wybodaeth rydych chi’n dymuno ei chyrchu, a pha fath o ‘drydarwyr’ sy’n debygol o’i chynnig (gweler y rhestr isod am ragor o awgrymiadau). Proses organig yw hon a bydd yn cymryd amser i ddatblygu, a chofiwch y bydd o hyd yn bosib i ddad-ddilyn pobl os na fydd y cynnwys maent yn ei thrydaru o ddefnydd i chi! Bydd y botwm ‘follow’ yn troi i ‘unfollow’, gan roi’r opsiwn hwn i chi. Mae ffyrdd o wybod os yw rhywun wedi’ch ‘dad-ddilyn’, ond does dim hysbysiad awtomatig ac, yn gyffredinol, dyw pobl ddim yn tueddu gwirio.
I ddilyn rhywun, mae’n ddigon syml. Cliciwch ar eu proffil (eu henw neu eu llun) a chlicio’r botwm ‘Follow’ ar ochr dde eu proffil:
Felly sut mae dod o hyd i bobl i’w dilyn? Pan fyddwch yn cofrestru am y tro cyntaf ar Twitter, bydd yn awgrymu pobl i chi eu dilyn, neu yn eich gwahodd i chwilio am enwau neu eiriau allweddol, ond gall hyn fod braidd ar hap a damwain. Mae rhai pobl yn rhoi’r gorau iddi ar yr adeg hon, gan feddwl mai sêr y byd cerddoriaeth a phobl yn trydaru am eu brecwast yn unig sydd ar gael….
Ar y cam hwn, byddai’n ddefnyddiol gwybod pwy arall sy’n cymryd rhan yn y rhaglen, felly dw i wedi creu rhestr o bawb a anfonodd y trydariad a awgrymais i ddoe er mwyn i chi allu dod o hyd i’ch gilydd a dilyn eich gilydd.
Mae wyth awgrym arall yma (er nad yw’n gynhwysfawr!) i ddatblygu ffrwd defnyddiol o wybodaeth a allai weithio’n dda i chi mewn cyd-destun Addysg Uwch:
- Academyddion ‘enwog’ a meistri byd y cyfryngau Bydd dilyn pobl a sylwebwyr adnabyddus yn y byd academaidd yn rhoi syniadau i chi o ran sut i ddatblygu eich proffil a’ch effaith, yn ogystal â chynnig sylwebaeth ar bolisi addysg, newyddion am ddatblygiadau mewn Addysg Uwch, mynediad at eu rhwydwaith nhw o ddilynwyr a deunydd diddorol i aildrydaru i’ch dilynwyr. Gallech chi ddilyn ymchwilwyr Addysg megis Tara Brabazon neu academyddion fel Athene Donald, Brian Cox or Mary Beard, sy’n ysgrifennu ar academia ac effaith yn ehangach.
- Cyrff Proffesiynol ar gyfer diweddariadau am ddigwyddiadau, newyddion, polisi neu gyfleoedd cyllido, bydd eich corff proffesiynol yn ddefnyddiol iawn. Er enghraifft, rhowch gynnig ar y Sefydliad neu’r Coleg sy’n cynrychioli eich disgyblaeth (er enghraifft, y Gymdeithas Frenhinol, Coleg Brenhinol Nyrsio, y Sefydliad Rheoli Siartredig, neu’r Academi Brydeinig. Mae hefyd sefydliadau Addysg Uwch cyffredinol megis yr Academi Addysg Uwch neu ei chanolfannau pwnc perthnasol sydd ar Twitter. Gallwch hefyd ddilyn sefydliadu ymchwil prifysgolion penodol os oes ganddynt ffrydiau Twitter.
- Cyrff Cyllido Am alwadau am gyllid neu newyddion eraill, dilynwch gyrff megis UK Research & Innovation, cynghorau unigol megis EPSRC, AHRC, ESRC neu JISC.
- Y Wasg Academaidd a Phroffesiynol Gwasg addysg fel @timeshighered, @InsideHigherEd neu bydd @GdnUniversities yn rhoi mynediad i chi at newyddion AU cyffredinol a allai fod o ddiddordeb i chi neu’ch dilynwyr. Cyhoeddiadau disgyblaeth benodol megis New Scientist, Nursing Times neu The Economist sydd hefyd â’i ffrydiau Twitter eu hunain, a llawer o gyfnodolion a chyhoeddwyr academaidd, megis cyfnodolion natur cyffredinol fel NatureChemistry neu NatureMedicine. Mae gan flog LSE Impact erthyglau ardderchog ar bob agwedd ar ymchwil.
Gall dilyn newyddiadurwyr unigol hefyd fod yn ffordd o glywed straeon diddorol neu hyd yn oed godi eich proffil chi yn y wasg. Mae gan lawer o gyfnodolion hefyd eu cyfrifon Twitter eu hunain y gallant efallai eu defnyddio i rwydweithio â chyfranwyr neu unigolion y gellir cyfweld â nhw
- Cydweithwyr yn eich disgyblaeth chi Mae dilyn cydweithwyr eraill yn eich maes yn ffordd wych o rwydweithio. Chwiliwch am bobl rydych chi’n eu hadnabod neu wedi clywed amdanynt i weld a oes ganddynt gyfrif Twitter, boed yn academyddion uwch neu iau. Chwiliwch yn ôl enw neu air allweddol, neu mewnforiwch gysylltiadau o’ch cyfrif LinkedIn neu e-bost, yn enwedig rhestrau JISCmail.
- Mentoriaid Academaidd Mae nifer o blogwyr a thrydarwyr sy’n creu cymuned gefnogol i weithwyr academaidd proffesiynol eraill a myfyrwyr ymchwil y mae ganddynt gyngor a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu am agweddau amrywiol ar fod neu ddod yn academydd, o ysgrifennu a chyhoeddi i reoli eich gyrfa. Hefyd gallai fod cyngor defnyddiol yno i’w drosglwyddo i’ch myfyrwyr, ac efallai i chi hefyd. Gallech chi roi cynnig ar jobs.ac.uk ar gyfer cyngor gyrfaol neu ddilyn @thesiswhisperer, @researchwhisperer, @ECRchat, @ThomsonPat, a hyd yn oed @phdcomics. Ydych chi’n gwybod am unrhyw rai eraill?
- Ymgysylltu Cyhoeddus ac Effaith Bydd dilyn tîm marchnata ac ymgysylltu cyhoeddus eich prifysgol ac ymchwilwyr eraill sy’n ymddiddori mewn effaith yn eich helpu i fod yn ymwybodol o ddigwyddiadau y gallech chi wirfoddoli ynddynt, neu ffyrdd diddorol o gyflwyno ymchwil i gynulleidfaoedd eraill. Dilynwch ffrwd Twitter swyddogol Prifysgol Abertawe. Hefyd, rhowch gynnig ar restrau o gyfrifon Twitter SU Prifysgol Abertawe. Gallech chi hefyd ddilyn sylwebwyr fel Ben Goldacre neu Simon Singh.
- Gwasanaethau cysylltiedig a phroffesiynol Mae llawer o bobl ar Twitter sy’n gallu cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i chi heb fod yn eich proffesiwn. Dilynwch lyfrgellwyr, cynghorwyr anabledd, technolegwyr ac ymchwilwyr dysgu a phobl sy’n datblygu staff… maent oll yn bobl ddefnyddiol y gallwch chi ddysgu ganddynt a chydweithio â nhw, a chadw mewn cysylltiad â nhw am yr hyn sy’n digwydd o gwmpas y brifysgol! Dilynwch y Llyfrgell, Undeb y Myfyrwyr, y Tîm Effaith Ymchwil.
- Llunwyr polisi Os oes diddordeb gennych mewn polisi addysg y llywodraeth, gallech chi ddilyn gwleidyddion unigol, Adran Addysg y Llywodraeth, WONKHE neu bwyllgorau dethol y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, neu Addysg. Gallech chi hefyd ddilyn cyrff megis y QAA, Ymddiriedolaeth Sutton neu HESA.
- Gwleidyddiaeth, Diwydiant a sectorau eraillI gadw llygad ar ddatblygiadau yn y sector, effeithiau posib yn y dyfodol a cheisiadau ar gyfer eich ymchwil, neu ddatblygiadau a allai effeithio ar yr hyn rydych chi’n gweithio arno nawr, gallech chi ddilyn rhai o’r cyrff proffesiynol sy’n cynrychioli’r mathau o sector sy’n gysylltiedig â’ch ymchwil. Os oes diddordeb gennych ym maes polisi Llywodraeth y DU ar wyddoniaeth, gallech chi ddilyn gwleidyddion a gweinidogion unigol er enghraifft, neu’r Pwyllgor Dethol perthnasol, e.e. Gwyddoniaeth neu Iechyd (neu’r hyn sy’n cyfateb mewn gwledydd eraill).
Sut i dyfu’ch ffrwd Twitter yma:
Bydd Twitter yn awgrymu pobl i chi eu dilyn yn seiliedig ar bwy rydych chi’n eu dilyn ar hyn o bryd. Gall hyn fod braidd ar hap i ddechrau, oherwydd nad ydych yn dilyn llawer o bobl ac felly does dim sail gan yr algorithm. Mae ffyrdd eraill o ychwanegu pobl at eich ffrwd Twitter:
- Pelen Eira – edrychwch ar broffiliau y bobl rydych chi’n eu dilyn – pwy maen nhw’n eu dilyn, a phwy arall sy’n eu dilyn nhw? Gallwch weld pwy sy’n dilyn pwy, neu unrhyw un arall, drwy fynd i’ch proffil chi neu eu proffil nhw a chlicio ar ‘followers’.
- Aildrydaru – bydd pobl rydych chi’n eu dilyn yn aildrydaru pethau maent yn credu y gallai fod o ddiddordeb. Cadwch lygad am aildrydariadau o’r cyfrifon nad ydych chi’n eu dilyn, ac ychwanegwch nhw. Byddwn yn trafod aildrydaru yn y Diwrnodau i ddod.
- Hashnodau – yn enwedig am livechats a digwyddiadau sy’n cael eu trydaru’n fyw, fel cynadleddau. Mae ymuno â thrafodaeth â hashnod yn ffordd dda o ddod o hyd i fwy o bobl sydd â diddordeb yn y pwnc neu’r digwyddiad hwnnw. Byddwn ni hefyd yn trafod hashnodau yn y Diwrnodau i ddod.
- #FF neu #FollowFriday – dyma gonfensiwn ar Twitter fel byddwch yn trydaru enwau pobl rydych chi’n eu hystyried gwerth eu dilyn ar ddydd Gwener. Cadwch lygad am y rhain, neu trydarwch eich dilynwyr a gofynnwch am awgrymiadau!
- Dilynwyr – Cewch eich hysbysu pan fydd pobl newydd yn eich dilyn chi – edrychwch ar eu proffil i weld a ydynt yn unigolion yr hoffech chi eu dilyn eich hun. Os ydych chi’n amau bod un o’ch dilynwyr newydd yn sbam, gallwch eu rhwystro drwy ddefnyddio’r eicon pen wrth ymyl y botwm ‘Follow’ a dewis ‘block’.
Tasg 1
Ewch i ddarganfod pobl i’w dilyn a phan fydd munud yn sbâr gennych yn ystod y dydd, gwyliwch y ffrwd o drydariadau a’r wybodaeth maent yn ei hanfon. Os ydych chi’n dod o hyd i bobl ddiddorol rydych chi’n meddwl y dylai pobl eraill eu dilyn, rhowch wybod inni!
Anfon @messages
Rydych chi wedi anfon trydariadau, wedi dilyn pobl a, gobeithio, wedi casglu dilynwyr eich hun. Mae’n well gan rai pobl wrando mwy na thrydaru, sy’n iawn – yr unig beth i’w ystyried yw po fwyaf y byddwch yn ei ddweud am eich diddordebau ac yn rhwydweithio ag eraill, mwy fydd nifer y bobl sy’n gwybod pa fath o wybodaeth sy’n mynd i fod yn ddefnyddiol i chi, gan gyfeirio pethau perthnasol atoch. Mae’n ffordd o gaboli eich ffrwd Twitter, yn ogystal â chynnig gwybodaeth ddefnyddiol i eraill.
Weithiau, efallai y byddwch chi am gyfeirio trydariad at rywun – bydd yn weladwy i ddilynwyr eraill, ond byddwch chi am ddenu sylw unigolion penodol. Gallai hyn fod oherwydd:
- eich bod yn ateb neu’n ymateb i un o’u trydariadau nhw,
- eich bod yn gofyn cwestiwn iddynt,
- eich bod yn credu y byddai ganddynt ddiddordeb penodol yn yr wybodaeth a drosglwyddwyd yn eich trydariad ac am sicrhau ei bod yn denu eu sylw,
- neu eich bod yn sôn amdanynt yn y trydariad ac am iddynt wybod, er enghraifft, eich bod yn aildrydaru un o’u trydariadau neu’n siarad am eu gwaith.
- Gallai hefyd fod oherwydd nad ydych chi’n adnabod yr unigolyn hwnnw, neu nid ydynt yn eich dilyn chi, ond rydych chi am ddenu ei sylw gydag un trydariad yn benodol. Bydd yn ei weld os ydych chi’n cynnwys eu @username.
Er enghraifft:
- Hei @KarenDewick1, joiais i dy gyflwyniad! Ydych chi’n adnabod @philippaprice?
- Mae’n rhoi sgwrs yn eich prifysgol yr wythnos nesaf, i staff @swminerslibrary – coffi rhyw dro?
- Adnoddau gwych am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol wrth addysgu – o ddiddordeb? @KarenDewick1 http://www.edudemic.com/guides/
- Wrthi’n darllen pennod @libgoddess ar lythrennedd gwybodaeth: syniadau diddorol!
I ddenu sylw rhywun at drydariad gydag @mention, defnyddiwch ei enw defnyddiwr neu ‘handle’ gyda’r arwyddnod @ o’i flaen. Er enghraifft, er mwyn i mi (Philippa) wybod eich bod wedi sôn amdana i byddech chi’n cynnwys @philippaprice yn y trydariad. Os ydych chi’n clicio ar yr opsiwn ‘reply’ sy’n ymddangos mewn llwyd ym mhob trydariad, bydd Twitter yn nodi @name yr unigolyn yn awtomatig (byddwn yn trafod yr opsiynau eraill sydd ym mhob trydariad yn ddiweddarach).
Dyma reswm arall i gadw’ch enw Twitter mor fyr ag y gallwch – mae’n llyncu peth o’r 280 o nodau! Dyma nodwedd a ddaeth yn wreiddiol o ddefnyddwyr Twitter a gafodd ei ddylunio i mewn i’r llwyfan yn ddiweddarach. Dyma’r hyn sydd wedi troi Twitter o fod yn llwyfan darlledu i adnodd sgwrsio, a dyna wir gryfder Twitter.
Sylwer – gan fod yr arwydd @ wedi’i gadw ar gyfer bachau pobl, allwch chi ddim â’i ddefnyddio fel byrfodd ar gyfer y gair Saesneg ‘at’, er enghraifft, ‘let’s meet @6pm @cafe’ – bydd Twitter yn trin y rhain fel @message, ac mae’n ddigon tebygol y bydd rhywun, rhywle, wedi dewis @6pm neu @cafe fel bachyn!
Pwynt bach ond pwysig yw ble i leoli’r @username. Os ydych chi’n ymateb i drydariad drwy ddefnyddio’r botwm ‘ymateb’, bydd Twitter yn dechrau aildrydaru eich ymateb gyda’r @username yn awtomatig, ac yna gallwch deipio gweddill y neges. Fodd bynnag, os yw peth cyntaf y trydariad yn @username rhywun, yna yr unigolyn hwnnw’n unig a’r rhai hynny sy’n eich dilyn a fydd yn gallu ei weld. Os ydych chi am i’r trydariad gyrraedd cynulleidfa ehangach, mae angen naill ai nodi atalnod llawn o flaen yr arwydd @ fel hyn: .@karendewick1 NEU gallech chi gynnwys yr @username nes ymlaen yn eich trydariad fel rhan o’r frawddeg.
Pam byddech chi eisiau i gynulleidfa ehangach weld sgyrsiau rhyngoch chi a defnyddiwr arall?
Pa fantais yw hynny iddyn nhw?
- Mae’n gwrtais i’w gydnabod os ydych chi’n trydaru rhywbeth mae wedi’i ddweud, neu i adael iddo wybod os ydych chi’n cynnig sylwadau ar ei waith.
- Rydych chi’n tynnu sylw ato a’i waith ymhlith pobl nad ydynt eisoes yn ei ddilyn – bydd yn cael cyhoeddusrwydd a mwy o ddilynwyr
Beth yw’r fantais i chi?
- Rydych chi’n datblygu enw da fel rhywun proffesiynol sy’n gwrtais, yn gymwynasgar, yn wybodus ac â chysylltiadau da
- Efallai y byddwch chi hefyd yn denu mwy o ddilynwyr neu wneud cysylltiadau newydd
Beth yw’r fantais i’ch dilynwyr?
- Byddant yn cael gwybod am waith rhywun arall efallai nad oeddent eisoes yn ymwybodol ohono, ac unigolyn newydd i’w ddilyn
- Cânt gyfle i gyfrannau at y drafodaeth hefyd, a thrwy hynny, cael cysylltiadau a chynulleidfaoedd newydd
- Os ydych chi’n ymateb i rywun sydd wedi trosglwyddo gwybodaeth ddefnyddiol i chi’n benodol, mae’n ddefnyddiol i gopïo eu hymateb yn eich ymateb chi i’r trydariad, rhag ofn y bydd gan ddilynwyr eraill ddiddordeb yn y wybodaeth.
Wrth reswm, efallai y bydd adegau pan nad ydych chi am i gynulleidfa eang weld y rhyngweithiad, os nad yw’n mynd i fod yn ddealladwy y tu allan i’r cyd-destun, neu os na fydd o ddiddordeb iddynt ac ond yn llenwi eu ffrwd nhw â chyfres o ‘@’. Cofiwch fod Twitter yn gyfrwng hynod weladwy, a p’un ai a fyddwch yn cynnwys rhywun mewn @message ai peidio, bydd eich trydariadau’n weladwy i unrhyw un sy’n edrych ar eich proffil. 00105} Os ydych chi wir am anfon neges at un unigolyn yn unig, ond nad ydych chi am ei gwneud yn weladwy yn gyhoeddus i neb arall, mae Twitter yn eich galluogi chi i anfon DM, neu neges uniongyrchol, ato. Os yw’r unigolyn hwnnw’n eich dilyn (os ydych chi am ymarfer anfon DM, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r trefnwyr! Rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu eich dilyn yn gyntaf (os nad ydyn ni eisoes yn gwneud hynny).
I weld y @negseuon sydd wedi’u cyfeirio atoch chi, cliciwch ar Notifications ar ochr chwith y sgrîn:
Byddant hefyd yn ymddangos yn eich ffrwd Twitter, ond efallai na fyddwch yn sylwi arnynt yno! Gan ddibynnu ar eich gosodiadau, gallwch hefyd dderbyn e-bost pan fydd rhywun yn eich cynnwys mewn @messages. I sicrhau eich bod yn cael e-bost bob tro y mae rhywun yn sôn amdanoch, cliciwch ar More ar ochr chwith y sgrîn a dewis Notifications i weld eich opsiynau.
Tasg 2
Anfon @messages at bobl rydych chi’n eu dilyn, gan ofyn cwestiwn iddynt, neu ddenu eu sylw at rywbeth neu adael sylw ar rywbeth a drydarwyd ganddynt! Ateb unrhyw un sy’n anfon neges atoch, er mwyn bod yn gwrtais, os ydynt yn ymddangos i fod yn ddilys ac yn broffesiynol.