NomisThis link opens in a new windowMae Nomis yn wasanaeth a ddarperir gan y ONS, sy'n rhoi mynediad rhad ac am ddim i'r ystadegau mwyaf manwl a diweddaraf am farchnad lafur y DU gan ffynonellau swyddogol.
StatsCymruThis link opens in a new windowMae StatsCymru yn wasanaeth ddi-dâl i’w ddefnyddio, sy'n caniatáu i chi weld, defnyddio, creu a lawr lwytho tablau data ar gyfer Cymru.
Swyddfa Ystadegau GwladolThis link opens in a new windowY Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yw safle ystadegau swyddogol y Deyrnas Unedig ar gyfer ystadegau iechyd, addysg, materion cymdeithasol, economeg, masnach a llafur, a holl feysydd polisi'r llywodraeth, gan gynnwys Cyfrifiad 2011.
European Sources OnlineThis link opens in a new windowMae European Sources Online (ESO) yn gronfa ddata ar-lein sy’n rhoi mynediad at wybodaeth ar sefydliadau a gweithgarwch yr Undeb Ewropeaidd, gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol eraill Ewrop, ac ar faterion pwysig i ddinasyddion a rhanddeiliaid Ewropeaidd. Mae ESO yn rhoi mynediad i filoedd o wefannau, dogfennau a chyhoeddiadau a ddetholwyd gan arbenigwyr o’r UE a sefydliadau rhyngwladol eraill, llywodraethau cenedlaethol, melinau trafod, sefydliadau rhanddeiliaid, papurau gwaith ayyb, erthyglau testun llawn o’r Financial Times ac European Voice. Ceir cofnodion llyfryddiaethol i werslyfrau academaidd allweddol ac erthyglau cyfnodol. Ceir hefyd gyfres o Ganllawiau Gwybodaeth wedi’u llunio gan Dîm Golygyddol ESO. Fe’i diweddarir yn ddyddiol.
EuroStatThis link opens in a new windowGelwir Swyddfa Ystadegau Cymunedau Ewrop yn Lwcsembwrg yn Eurostat. Nid yw Eurostat yn casglu data ei hun, ond mae'n casglu data o asiantaethau ystadegau gwladol yr aelod-wladwriaethau. Yna mae angen iddi sicrhau bod y data'n cyd-fynd fel y gellir gwneud cymariaethau ystyrlon ar draws sawl gwlad.