Mae'r dudalen hon yn disgrifio'r 4 prif gam i chwiliad llenyddiaeth llwyddiannus. Mae cyngor a chymorth ychwanegol bob amser ar gael gan eich llyfrgellwyr. Gweler ein manylion cyswllt ar yr hafan. Mae'n bosib y byd y nodiadau a'r dolenni isod yn ddefnyddiol hefyd.
Bydd treulio ychydig amser yn meddwl am eich strategaeth chwilio yn gymorth mawr wrth ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich aseiniadau. Dyma elfennau allweddol strategaeth chwilio dda:
Fe welwch ychydig o benodau llyfrau a all eich helpu chi o ran datblygu eich strategaeth chwilio ar y tudalennau hyn.
Mae amrywiaeth eang o wybodaeth efallai yr hoffech ei chynnwys yn eich aseiniadau. Mae'n cynnwys:
Mae dewis yr allweddeiriau cywir yn rhan bwysig iawn o'r broses chwilio. Po fwyaf rydych yn darllen am eich pwnc, mwyaf o allweddeiriau a thermau allweddol byddwch yn dod ar eu traws. Ar ddechrau'ch chwiliad, mae'n bosib mai ychydig yn unig o allweddeiriau fydd gennych. Gyda'r rhain, gallwch gynnal chwiliad cwmpasu (chwiliad eang, cyflym) i gael trosolwg o faint o lenyddiaeth sydd ar gael ar gyfer eich pwnc. Yn seiliedig ar eich canlyniadau, gallwch fireinio'ch allweddeiriau ac ail-wneud eich chwiliad.
Bydd yn bwysig cyfuno'ch allweddeiriau yn y ffordd gywir gan ddefnyddio gweithredwyr Boolean (AND/OR/NOT). Rydym wedi creu ffurflen cofnodi chwiliad i'ch helpu i feddwl am allweddeiriau ar gyfer eich chwiliad.
DS: Bydd rhai o'n cronfeydd data yn cynnwys Penawdau Pwnc/Penawdau Thesawrws hefyd. Mae defnyddio chwiliadau pennawd pwnc yn ffordd ddatblygedig o chwilio am lenyddiaeth a gall ddarparu set ddefnyddiol a phwrpasol o ganlyniadau. Bydd gan bob cronfa ddata dudalen cymorth sy'n cynnig rhagor o fanylion.
Mae gwerthuso'ch ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth, a chwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml yw: Sut rydych yn gwybod bod eich ffynonellau yn:
Mae yna nifer o lyfrau, penodau llyfrau a gwefannau rhagorol a all eich helpu chi o ran gwerthuso'ch ffynonellau yn feirniadol. Fe welwch ychydig ar y tudalennau hyn.
Dechreuwch ystyried eich prif dermau chwilio drwy adnabod y cysyniadau allweddol yn eich cwestiynau ymchwil, yna ystyriwch gyfystyron, termau cysylltiedig, sillafiadau gwahanol, byrfoddau, termau mwy penodol a chyffredinol y byddai awdur neu awduron efallai wedi’u defnyddio i drafod pwnc.
Y teclyn PICO
Gall Claf/ Ymyrraeth/ Cymhariaeth / Canlyniad eich helpu i fframio eich cwestiwn ymchwil ac adnabod cysyniadau ar gyfer eich chwiliad meddygol/clinigol.
Os nad yw PICO yn gweithio ar gyfer eich chwiliad yna efallai yr hoffech ystyried fframwaith arall fel:
Neu peidiwch â defnyddio fframwaith a gwahanwch eich pwnc yn gysyniadau chwilio gwahanol.
e.g. Haint a gafwyd yn yr ysbyty
Felly gall eich termau allweddol gynnwys; Haint a gafwyd yn yr ysbyty/Traws-heintiad
Golchi dwylo
Felly efallai bydd eich termau allweddol wrth chwilio yn cynnwys golchi dwylo/hylendid dwylo
Datrysiadau eraill
Felly efallai bydd eich termau allweddol wrth chwilio yn cynnwys rhwbiad alcohol/offer glanweithdra/rhwbiad dwylo/gel dwylo
Lleihau lledaeniad heintiau
Felly gallwch gynnwys eich gostyngiad yn eich chwiliad. Er hynny, ystyriwch yn ofalus gan y gallwch ganfod deunydd perthnasol heb ychwanegu gostyngiad i’ch chwiliad wrth chwilio am erthyglau sy’n cynnwys haint a geir yn yr ysbyty a golchi dwylo a datrysiadau eraill.