Mae'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth ar Gampws Parc Singleton ar 4 llawr ac mae wedi'i rhannu'n adenydd y Dwyrain a'r Gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr.
Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.
Bydd y Rhifau Galw hyn yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â lleoliad eich prif lyfrau testun yn y llyfrgell. Cofiwch, mae llawer o e-lyfrau ar gael hefyd nad ydynt ar y silffoedd. Chwilio yn iFind yw'r ffordd orau o ddarganfod beth sydd ar gael.
Rhif Galw |
Pwnc |
Lleoliad |
HV2380 |
Pobl Fyddar/Nam ar y Clyw |
Lefel, 1 Adain y Gorllewin |
QC225 |
Clywedeg: Sain/Acwsteg |
Lefel 2, Adain y Dwyrain |
QH308.2 |
Llyfrau Testun Bioleg |
Lefel 2, Adain y Dwyrain |
QM23 |
Anatomeg Ddynol |
Lefel 2, Adain y Dwyrain |
QP34 |
Ffisioleg Ddynol |
Lefel 2, Adain y Dwyrain |
QP101 - QP114 |
Ffisioleg Gardiofasgwlaidd/y Galon |
Lefel 2, Adain y Dwyrain |
QP121 |
Ffisioleg Anadlu |
Lefel 2, Adain y Dwyrain |
R895 |
Ffiseg Feddygol/Delweddu Meddygol |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |
RB111 - |
Pathoffisioleg |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |
RC78 |
Radiograffeg Feddygol/Delweddu Meddygol |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |
RC667 |
Clefydau'r Galon |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |
RC683 |
Cardioleg/ECG |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |
RC700 |
Anhwylderau Anadlol |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |
RC711 |
Pathoffisioleg - Ysgyfeiniol |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |
RC734.P84 |
Profion Gallu Anadlu |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |
RC941 |
Delweddu Meddygol (Thorasig ac Abdomenol) |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |
RF46 |
Otolaryngoleg |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |
RF290 |
Clywedeg |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |
Rf300 |
Cymhorthion Clyw |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |
RT69 |
Anatomeg a Ffisioleg (Ross a Wilson; Seeley) |
Lefel 1, Adain y Dwyrain |