Gallwn archebu:
|
Fel arfer, ni allwn archebu:
Gwiriwch wefan EThOS y Llyfrgell Brydeinig (y DU) a Proquest Dissertations and Theses (Byd-eang) am fynediad am ddim a mynediad drwy danysgrifiad i e-draethodau ymchwil cyn cyflwyno cais. Os nad yw traethawd ymchwil wedi cael ei ddigideiddio o'r blaen ac ni allwn ei fenthyca, mae'n bosib y gallwch brynu copi drwy'r gwasanaethau canlynol:
Oherwydd y gost uchel, nid yw'r llyfrgell yn gallu tanysgrifio i brynu'r traethodau ymchwil hyn.
I gael gwybodaeth am fynediad i draethodau ymchwil Prifysgol Abertawe, darllenwch Ganllaw'r Llyfrgell i E-draethodau Ymchwil a Thraethodau Ymchwil.
Fel arfer, rydym yn darparu eitemau o fewn yr amserau canlynol:
Fodd bynnag, gall benthycwyr amrywio o ran eu hamserau cyflenwi, felly rydym yn argymell eich bod yn caniatáu hyd at 10 niwrnod gwaith i'ch eitem gael ei darparu. I ganslo cais, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib. |
|
Benthyciadau Rhwng LlyfrgelloeddBydd benthyciadau ar gael i'w casglu yn y llyfrgell a nodwyd gennych yn eich cais a byddwch yn derbyn e-bost i'ch hysbysu pan fyddant yn barod i'w casglu. Y llyfrgell fenthyca sy'n penderfynu ar gyfnodau benthyca ond, fel arfer, cewch hyd at bedair wythnos. Sylwer hefyd, gall rhai benthyciadau fod ar gael i gyfeirio atynt yn y llyfrgell yn unig. Codir ffi o £10 am beidio â chasglu benthyciadau. Rydym wedi cyflwyno'r ffi hon i fynd i'r afael â chynnydd mewn benthyciadau nad ydynt yn cael eu casglu, ac i leihau gwastraff arian.
Copïau o erthyglau a phenodauA PDF copy will be delivered to your university email address. Gall eich cais gael ei gyflenwi gan British Library On Demand. Byddwch yn derbyn dolen gan noreply@bldss.bl.uk i lawrlwytho'r eitem. Bydd y ddolen yn dod i ben 30 o ddiwrnodau ar ôl ei hanfon, felly rydym yn eich argymell i lawrlwytho'ch dogfen cyn gynted â phosib. |
Nid yw benthyciadau rhwng llyfrgelloedd yn adnewyddu'n awtomatig. I wneud cais am adnewyddu, cysylltwch â Gwasanaethau Cyflenwi Dogfennau drwy e-bost. Adnewyddu'r tro cyntaf: Am ddim Adnewyddu'r Eildro: £5 fesul benthyciad (caiff ei ychwanegu at eich cyfrif llyfrgell)
Gadewch ddigon o amser i'ch cais am adnewyddu gael ei brosesu. Mae ceisiadau am adnewyddu'n amodol ar ganiatâd y benthyciwr a gellir adalw benthyciadau unrhyw bryd. |
Os oes angen cynnwys hanfodol arnoch ar gyfer eich ymchwil ac nid yw ar gael yn Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe, gallwn fenthyca'r eitem neu archebu copi o lyfrgell arall i chi. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe at ddibenion astudio preifat ac ymchwil nad yw’n fasnachol yn unig.
Darllenwch os gwelwch yn dda:
Mae’n rhaid i fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd gael eu casglu o’r Ddesg Wybodaeth yn eich dewis lleoliad yn ystod oriau gwaith y staff. Byddwch chi’n derbyn neges e-bost pan fydd eich benthyciad yn barod i’w gasglu.
Bydd ceisiadau am gopi o siarter/erthygl yn parhau i gael eu darparu’n electronig i’ch cyfeiriad e-bost yn y Brifysgol. Gall eich cais gael ei gyflenwi gan British Library On Demand.
Ceisiadau am Fenthyciad/Copi | Am ddim |
---|---|
Adnewyddu |
Adnewyddu'r tro cyntaf ac eildro- Am ddim Adnewyddu'n olynol - £5 |
Ceisiadau Rhyngwladol | £10 |
Ffi Dychwelyd yn Hwyr | £1 fesul dydd |
Ffi am Beidio â Chasglu Benthyciad | £10 |
Ffi am Golli Benthyciad | £214.30 + TAW (ffi safonol y Llyfrgell Brydeinig). Gellir derbyn amnewid corfforol yn amodol ar gymeradwyaeth y llyfrgell. |
Gwasanaethau Cyflenwi Dogfennau
Llyfrgell Parc Singleton
Prifysgol Abertawe
Abertawe, SA2 8PP
Y Deyrnas Unedig
E-bost: Cyflenwi Dogfennau
Mynediad i gynnwys testun llawn, Mynediad Agored, am ddim ac yn gyfreithlon.
Copïau: £10.65 + TAW
Codir cyfradd gyfredol cynllun CONARLS ar aelodau.
Rydym yn derbyn talebau IFLA i dalu am fenthyciadau neu lungopïau rhyngwladol.
Benthyciadau – 4 IFLA
Copïau – 3 IFLA
Byddwn yn benthyca:
Llyfrau a argraffwyd ar ôl 1900.
Traethodau ymchwil i'w defnyddio o fewn eich sefydliad yn unig (llyfrgelloedd y DU yn unig). Gall llyfrgelloedd y tu allan i'r DU ofyn am amcangyfrif o gost darparu llungopi o draethawd ymchwil.
iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.