Skip to Main Content

EndNote

This page is also available in English

Defnyddio Cite While You Write

Wrth i chi osod EndNote ar eich dyfais, bydd bar offer yn ymddangos yn Word gyda'r gorchmynion angenrheidiol i roi cyfeiriadau yn eich gwaith. Mae'r fideo hwn yn dangos sut i'w ddefnyddio. Mae Adran 9 yn ein llyfr gwaith hefyd yn trafod gweithio gyda Word.

Arddulliau EndNote

Mae arddulliau Endnote yn rheoli’r ffordd y mae’ch cyfeiriadau’n ymddangos yn Word. Mae nifer fawr ar gael ar gyfer EndNote, a llawer ohonynt ar gyfer cyfnodolion penodol.  Gallant ddefnyddio fformatio awdur-dyddiad, fformatio wedi’i rifo neu droednodiadau. I gael rhagolwg o arddull:

  • Dewiswch Output Styles o’r fwydlen Edit
  • Dewiswch Open Style Manager.
  • Dewiswch Style preview i weld sut y byddai cyfeiriadau’n ymddangos yn yr arddull dewisedig. 

Mae arddulliau ychwanegol ar gael o safle lawrlwytho arddulliau EndNote. Os dewch o hyd i un yr ydych am ei ddefnyddio, lawrlwythwch ac agorwch yr arddull ac yna defnyddiwch Save As i’w gadw yn eich copi eich hun o EndNote. 

Arddulliau troednodiadau

Creu troednodiadau:

  • Mae’n rhaid creu troednodiadau yn Word (tab References ac yna’r botwm Insert footnote yn Word 2007 / 2010). Dim ond rhai arddulliau EndNote fydd yn caniatáu i chi greu troednodiadau.
  • Rhowch eich cyrchwr yn yr ardal droednodyn a grëwyd gan Word a mewnosodwch gyfeiriad fel arfer gan ddefnyddio Tools - EndNote - Insert Selected Citation (neu Find Citation).
  • Yna bydd EndNote yn fformatio’r dyfyniad mewn arddull troednodyn priodol.

Word sy’n fformatio rhifau yn eich testun, nid EndNote. Os ydych am i rif ymddangos fel uwchysgrif, dewiswch y rhif ac yna dewiswch Font o’r fwydlen Format. Cliciwch ar y blwch ger Superscript

Arddulliau EndNote sy’n caniatáu troednodiadau  

Author-Date, American Historical Review, Biography, Chicago 14th A, Chicago Review, CLA Journal, Criticism, Eighteenth Century Studies, Early American Literature, English Literary History, Explicator, Genre, Journal of American History, Journal of Modern Literature, Kenyon Review, MHRA, Mississippi Quarterly, MLA, Modern Fiction Studies, Modern Philology, Mosaic, Nineteenth Century Literature, Novel, Old English Newsletter, PMLA, Restoration Studies, Studies Novel, Studies Short Fiction, Turabian Bibliography.

Bydd y rhan fwyaf o’r arddulliau uchod yn defnyddio "ibid." os yw dyfyniad wedi’i ailadrodd. Bydd Early American Literature, MHRA, Modern Fiction Studies a Restoration 18th Century Theatre yn mewnosod teitl byr yn lle hynny.  

Arddulliau EndNote Abertawe

Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu 4 prif arddull i israddedigion - APA (arddull math Harvard neu awdur-dyddiad), MHRA (arddull troednodiadau i’r dyniaethau), Vancouver (arddull wedi’i rifo) ac Oscola (arddull cyfreithiol). Mae’n bosib y bydd rhai adrannau hefyd yn argymell y rhain ar gyfer ôl-raddedigion. Gellir lawrlwytho’r ffeil Oscola o Gyfadran y Gyfraith Rhydychen ond oherwydd natur dyfyniadau cyfreithiol, gall fod yn anos i’w ddefnyddio gydag EndNote nag arddulliau eraill.

I ddefnyddio ffeiliau Abertawe, lawrlwythwch nhw a’u hagor ac yna defnyddiwch Save As i’w cadw yn eich copi eich hun o EndNote.