Mae'n bosib cysoni EndNote ar y bwrdd gwaith â fersiwn ar-lein. Yn y modd hwn, gallwch ddefnyddio EndNote pan nad oes gennych fynediad at y feddalwedd, mae'n cadw copi wrth gefn o'ch cyfeiriadau a gallwch rannu cyfeiriadau ag eraill.
Mae fersiwn ar-lein hollol rhad ac am ddim o EndNote nad yw wedi'i gysylltu â'r bwrdd gwaith. Byddem fel arfer yn argymell defnyddio'r fersiwn bwrdd gwaith sydd â gwell ymarferoldeb. Bydd angen i chi osod "Cite while you write" i gysylltu â'ch dogfen Word. Dewiswch y botwm "Downloads" yna dewiswch gosod.