Cam 1: Ystyriwch y mathau gwahanol o wybodaeth sydd ar gael i chi
Cam 2: Nodwch yr adnoddau penodol y byddwch yn eu chwilio
Cam 3: Nodwch y termau chwilio allweddol y byddwch yn eu defnyddio
Cam 4: Amlinellwch eich cynlluniau ar gyfer osgoi tuedd
Cam 5: Cynlluniwch sut byddwch yn storio ac yn cadw canlyniadau eich chwiliad
"Mae hidlyddion chwilio yn gasgliadau o dermau chwilio sydd wedi'u cynllunio i ddod o hyd i ddetholiadau o gofnodion. Gellir cynllunio hidlyddion chwilio i ddod o hyd i gofnodion ymchwil gan ddefnyddio cynllun astudio penodol neu ar sail pwnc neu ryw agwedd arall ar y cwestiwn ymchwil.
Gall hidlyddion fod â ffocws penodol iawn neu gallant fod ar lefel uchel. Gellir cynllunio hidlyddion chwilio i uchafu sensitifrwydd (neu adalw) neu i uchafu manylder (a lleihau nifer y cofnodion amherthnasol y bydd angen asesu eu perthnasedd)."
InterTASC Information Specialists’ Sub-Group. (2016). What is the ISSG filter resource? Adalwyd 10 Mehefin, 2016, https://sites.google.com/a/york.ac.uk/issg-search-filters-resource/what-is-the-issg-search-filter-resource